Diwrnod 2: Mantais fawr i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Billy RootFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd batiad anhygoel gan Billy Root o 229

Mae Morgannwg â mantais o 243 ar ddiwedd ail ddiwrnod y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Northampton.

Ar ddechrau'r diwrnod roedd yr ymwelwyr wedi sgorio pum rhediad heb golled wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Sir Northants o 209.

Er iddyn nhw golli wicedi'n gyson yn gynnar yn y dydd, fe newidiodd hynny pan ddaeth Billy Root i'r canol.

Bu Root yn rhan o bartneriaethau gyda Charlie Hemphrey (37), Dan Douthwaite (44) a Tom Cullen (63), ac erbyn iddo fynd allan ychydig cyn i'r chwarae ddod i ben roedd wedi sgorio 229.

Gyda Marchant de Lange hefyd yn cyfrannu 36 cyflym iawn ar ôl te fe wnaeth Morgannwg gyrraedd cyfanswm o 452 am naw wiced.

Fe fyddan nhw felly'n dechrau'r trydydd diwrnod gyda mantais o 243 gydag un wiced mewn llaw.