Robert Croft: Criced, Cymreictod a cholli swydd
- Cyhoeddwyd
"You will never make a living out of playing cricket."
Dyna eiriau y clywodd Robert Croft yn aml wrth iddo dyfu i fyny. Ond profodd y rhai oedd yn ei amau yn anghywir.
Aeth y gŵr o'r Hendy, Sir Gâr, ymlaen i chwarae criced yn broffesiynol dros Forgannwg a Lloegr, gan fod y Cymro cyntaf i gyrraedd 1,000 o wicedi a 10,000 o rediadau.
Y llynedd, collodd ei swydd hyfforddi gyda Morgannwg, ac am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd, nid yw'n gweithio ym myd criced.
Bu'n hel atgofion am ei yrfa ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar Radio Cymru.
"O'n i'n berson o'dd mo'yn chwarae ar y lefel uchaf a 'coachio' ar y lefel uchaf - ond pan chi'n 'coachio' ar y lefel uchaf, chi'n fwy agos i'r drws..."
"Fi'n cofio'r meeting ges i gyda'r chairman a'r chief executive, bod y contract wedi gorffen, a mynd mas o'r drws a gweud 'reit... be' sy'n mynd i ddigwydd nawr 'te?'.
"Ges i amser caled yn chwe mis 'na. Ers blynydde, fi 'di bo'n fishi pob amser, o'dd routine 'da fi. A hefyd, bob tro o'n i'n whare, a gweithio 'da Morgannwg, o'n i'n teimlo fel mod i'n gneud rhywbeth i Gymru.
"Fi'n lwcus iawn fod gwraig a teulu arbennig o dda 'da fi. Ma' nhw'n gw'bod pa mor bwysig yw criced i fi a beth mae criced wedi roi i ni dros y blynydde - dim tŷ neu arian a phethe fel 'na, ond fel person.
"O'dd e'n galed, a fi wedi cael ambell i gyfnod oedd ddim yn dda. Mae fel colli rhywun yn y teulu ac mae'n rhaid i mi fynd drwy bach o grieving process nawr.
"Fi'n teimlo tam' bach yn siomedig, ond dyna fel mae pethe'n mynd, a mae'n rhaid i fi a'r teulu edrych i'r dyfodol nawr."
"Ma' boi o'r Hendy yn gallu g'neud rhywbeth..."
"Naw a hanner o'n i, a'n atgof criced gynta' i oedd Javed Miandad, cricedwr Pakistan a Morgannwg. Waw!
"Yr amser 'na, o'dd tîm ym Mhontarddulais, ond achos bo' ni'n dod o'r Hendy, doedd dim gobaith fod boi o'r Hendy yn mynd draw i'r Bont i 'whare criced! Ond 'chi'n gallu mynd lawr i Abertawe'!
"O'n i wedi bod yn llwyddiannus 'da'r thimau ysgolion Cymru a gyda Abertawe, ac Alan Jones o Forgannwg yn clywed amdana i. Mynd lan i'r nets ym Morgannwg pan o'n i'n 15, a gweld pobl yn dreifio mewn mewn ceir 'da'r holl cit a 'whare mewn stadiums... a meddwl 'I could do with a bit of this!'
"Ges i gytundeb haf 'da Morgannwg yn 16, gêm gynta' yn y tîm cynta' pan o'n i'n 19... a gorffen pan o'n i'n 48!"
"Ar ôl '93, o'dden ni'n 'whare i ennill"
"O'dd ennill y cwpan undydd cynta' 'da Morgannwg yn Canterbury yn '93 yn anhygoel, achos 'na o'dd y gêm a'r tymor a newidiodd mindset Morgannwg, achos cyn 'na o'n ni'n teimlo bod Morgannwg jest yn troi lan i 'whare criced.
"Os ma' tîm Morgannwg yn gwneud yn dda, ma'r support yng Nghymru yn fawr iawn. Fi'n credu fod y bobl sy'n cefnogi criced yng Nghymru mo'yn ca'l connection 'da'r bobl sy'n 'whare yn y tîm. 'Ma' boi o'r Hendy yn 'whare yn fan'na..., boi o Gaerfyrddin, boi o Colwyn Bay'!
"Dyna fi'n credu ma'r bobl mo'yn. Ond maen rhaid iddyn nhw 'whare'n dda hefyd.
"Ma' lot o bobl yn gweud, beth sy' gyda'r cricedwyr gorau? Dwi'n meddwl bod nhw'n 'whare'n grêt, ond maen nhw'n tynnu grêt mas o bobl arall - a maen nhw'n gadael chydig bach o legacy pan maen nhw'n mynd."
"O ma' tipyn bach o Gymraeg 'da Crofty fan'na..."
"O'dd Mam-gu a Tad-cu yn cadw tafarn y Bird in Hand ac o'dd y regulars yn y gornel bob amser yn siarad Cymraeg. O'n i'n deall popeth, ond ddim yn siarad lot.
"Oedden nhw bob amser yn siarad Cymraeg 'da fi, a fi'n ateb yn Saesneg, achos Saesneg oedd yr iaith gynta' pan o'n i'n yr ysgol. Cymraeg yn iaith gynta' i'n nhad, ond ddim i'n fam, felly yn y tŷ oedden ni'n siarad Saesneg.
"Ond o'dd yr iaith wedi gwella pan o'n i 'da Morgannwg - achos o'dd Huw Llewelyn Davies ac Edward Bevan yn gwybod bod bach o Gymraeg 'da fi ac yn gweud 'rhaid i ni dynnu mwy mas o fe!'
"Edrych yn ôl nawr, fi bach yn siomedig mod i ddim wedi rhoi mwy o bwysau ar siarad Cymraeg achos fi 'di colli mas tamed bach, fi'n credu. Ond mae Callum a Cara-Beth 'da fi nawr - mae'r ddau ohonyn nhw'n fluent yn yr iaith."
"Reit, ma'r 'helicopter' mynd i bigo chi lan o Fae Colwyn"
"Fi'n cofio mynd lawr i'r Orsedd i ga'l fy urddo. O'dden ni'n 'whare Nottinghamshire ym Mae Colwyn.
"Wedes i mod i'n gallu dod lawr, ond o'dd rhaid i fi ddod nôl i ddechre off y gêm.
""Reit, ma'r helicopter mynd i bigo chi lan o Fae Colwyn" ac off â ni, i lawr i'r Bala. O'dd gan y peilot road map ar ei liniau...
"Landes i lawr yn y Bala, a cha'l y seremoni, o'dd yn arbennig - wedyn off â ni eto, dros y mynydde, yn ôl i Fae Colwyn.
"Cylchu dros y cae, ac o'dd y groundsman wedi gwneud 'H' ar y sgwâr a landion ni ar y cae fan'na! Briliant!"
"Na'r peth pan 'wy'n cofio'n ôl i'r tîm sydd wedi ennill cwpanau yn y 90au... o'dd calon yn y tîm 'na"
"Y peth pwysig i fi yw os yw Morgannwg mo'yn ca'l amser llwyddiannus, mae'n rhaid iddyn nhw adeiladu rhywbeth o Gymru. Ac o'n i'n trial 'neud e... bois ifanc sydd wedi dod drwy'r system.
"Achos os bod mwy na hanner y tîm yn dod o Gymru, chi'n cael hwyl, chi'n cael calon, chi'n cael ysbryd...
"Fel gyda thîm Morgannwg y 90au - Huw Morris, Stephen James, Adrian Dale, Matthew Maynard, Steve Watkin, Adrian Shaw, Tony Cotty, David Hemp, Darren Thomas a fi - ga'son ni amser arbennig o dda. Pan chi mewn amser caled iawn, y peth sy'n tynnu chi trwyddo yw'r calon.
"A gobeithio fod Morgannwg yn gallu ffeindio fe yn y dyfodol."
Hefyd o ddiddordeb: