IBERS Prifysgol Aberystwyth eisiau torri 30 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Ibers
Disgrifiad o’r llun,

IBERS yw'r adran fwyaf ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae llythyrau wedi cael eu gyrru at 70 o staff canolfan IBERS, sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol.

Mae'r brifysgol eisiau torri 30 o'r dros 300 o swyddi yn y ganolfan, a daw wrth iddi ddathlu 100 mlynedd o waith yn y maes o fridio planhigion.

Fe wnaeth Prifysgol Aberystwyth gyhoeddi yn 2017 eu bod eisiau gwneud arbedion o £11m dros ddwy flynedd, fyddai'n cynnwys torri tua 150 o swyddi.

Dywedodd ymchwilwyr yn y ganolfan wrth BBC Cymru yr wythnos ddiwethaf eu bod yn poeni am ddyfodol ariannu gwaith ymchwil "yn wythnosol".

Ffynhonnell y llun, IBERS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Canolfan IBERS ei sefydlu ar ôl i Syr Lawrence Phillips gyfrannu £10,000 tuag at waith ymchwil amaethyddol

Cafodd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ei sefydlu yn 1919, gyda'r nod o gynhyrchu mwy o fwyd yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd canolfan IBERS ei sefydlu ar ôl i Syr Lawrence Phillips gyfrannu £10,000 tuag at waith ymchwil amaethyddol. Yn 2019, mae hynny gyfystyr â £500,000.

Erbyn heddiw, mae'r ganolfan yn cael ei chydnabod am ei gwaith ymchwil yn rhyngwladol.

'Parhau â'i ymchwil arloesol'

Dywedodd y brifysgol mewn datganiad ddydd Mercher: "Nod y cynigion yw mantoli incwm a gwariant, ac maent yn rhan o strategaeth ehangach i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a llwyddiant parhaus y brifysgol hanesyddol hon.

"IBERS yw'r adran fwyaf yn y brifysgol gyda thros 300 o staff. O'u cymeradwyo, byddai'r cynigion yn arwain at leihau nifer y swyddi o 30.

"Ni fydd unrhyw benderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud nes bod yr ymgynghoriad â staff a'r undebau llafur wedi dod i ben.

"Mae IBERS yn gwbl ymrwymedig i barhau â'i ymchwil arloesol ym maes bridio planhigion drwy weithio'n agos gyda'r diwydiant a defnyddio'r technolegau diweddaraf er mwyn datblygu cnydau'r dyfodol."