Buddugoliaeth fawr i Forgannwg yn Northampton

  • Cyhoeddwyd
HoganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Michael Hogan oedd y gorau o'r bowlwyr gan gipio 4 am 32

Wedi batiad cyntaf godidog ar ail ddiwrnod y gêm, roedd hi'n ymddangos mai dim ond y tywydd allai rwystro Morgannwg rhag ennill y gêm yn Northampton.

Ond tra bod y glaw wedi golygu oedi hir yn y chwarae ddydd Mawrth, doedd dim achubiaeth i'r tîm cartref ddydd Iau.

Roedd Sir Northants angen 339 yn eu hail fatiad er mwyn gorfodi Morgannwg i fatio eto, felly doedd dim perygl i'r tîm o Gymru golli'r gêm.

Ond wrth i Michael Hogan a Marchant de Lange gipio wicedi cyson, roedd buddugoliaeth yn bur debygol yn gynnar yn y dydd.

Gan fod Ben Sanderson wedi'i anafu, dim ond naw wiced oedd eu hangen ar Forgannwg, ac fe ddaeth yr olaf ohonyn nhw cyn 15:00.

Buddugoliaeth i Forgannwg felly o fatiad a 143 o rediadau.

Sgôr terfynol - Sir Northants v. Morgannwg - Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd:

Sir Northants - (batiad cyntaf) 209; (ail fatiad) 195/9

Morgannwg - (batiad cyntaf) 547