Disgwyl cyhoeddiad am gau ffatri Ford ym Mhen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Ford Pen-y-bontFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Collwyd cannoedd o swyddi yn safle Ford ym Mhen-y-bont bum mis yn ôl

Bydd cwmni ceir Ford yn cau ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr erbyn Medi 2020, yn ôl ffynonellau o undebau'r gweithwyr.

Mae swyddogion undeb yn cael gwybod y manylion am y cynlluniau, sy'n cynnwys cynnig symud rhai o weithwyr Pen-y-bont i safleoedd eraill y cwmni yn y DU.

Deellir fod y cwmni'n beio "tanddefnydd" ac anfanteision costau o gymharu â ffatrioedd eraill.

Dywedodd cwmni Ford nad ydyn nhw am wneud sylw am y sibrydion a dyfalu, ond fe ddywedodd gweithwyr oedd yn cyrraedd y safle fore Iau eu bod yn ofni'r gwaethaf.

Mae Ford Europe wedi galw'r arweinwyr undebau o Ben-y-bont - sy'n cyflogi 1,700 o weithwyr - i'w pencadlys yn Essex fore Iau.

Fe ddaw hyn bum mis wedi i'r cwmni gyhoeddi ei fod yn cwtogi'r gweithlu yng Nghymru o 1,000 gyda 370 yn gadael yn fuan.

Yn 2015 fe wnaeth ffatri Pen-y-bont sicrhau buddsoddiad ar gyfer injan betrol newydd cwmni Ford - cynllun Dragon.

Y bwriad yn wreiddiol oedd i'r ffatri gynhyrchu 250,000 injan bob blwyddyn. Ond yna ym Medi 2016 fe gafodd y nifer yna ei haneru.

Mae 1,700 o weithwyr ym Mhen-y-bont yn gwneud peiriannau ar gyfer ceir Ford a Jaguar.

Bydd y llinell gynhyrchu Jaguar yn dod i ben eleni, a bydd y gwaith o wneud hen beiriannau Ford yn gorffen y flwyddyn nesaf.

Mae pryder wedi ei fynegi eisoes ynglŷn ag a fyddai ffatri Pen-y-bont yn gallu parhau drwy wneud 125,000 o'r peiriannau Dragon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd y ffatri ym Mhen-y-bont yn 1980

Fe ddaw'r cyfarfod ddydd Iau ddyddiau yn unig wedi i ffigyrau gwerthiant ceir Ford yn y DU ddisgyn eto.

Mae disgwyl y bydd cwmni Ford mewn cysylltiad gyda Llywodraeth Cymru yn fuan fore Iau.

Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y byddai cau'r safle yn cael effaith andwyol ar economi'r wlad.

"Os yw'r sibrydion yn wir, bydd yn un o'r ergydion mwyaf i economi'r wlad ers degawdau. Gallwn ni ddim dibrisio'r niwed y byddai hyn yn ei achosi i economi'r wlad.

"Ford yw'r trysor yng nghoron y diwydiant fodurol yng Nghymru sy'n ganolog i'r sector cynhyrchu, felly byddai colli'r safle yma yn cael effaith ddifrifol iawn ar swyddi."

'Dioddefwr diweddara' Brexit'

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn dweud ei fod wedi cysylltu â Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, a bod y sector moduro yn mynd drwy gyfnod o newid tuag at gerbydau trydan.

"Rydyn ni'n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu swyddi yn yr ardal yma, a'r sector yn ehangach," meddai.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Mae'n ymddangos mai Ford ym Mhen-y-bont yw dioddefwr diweddara' Brexit. Am ba hyd ydyn ni'n mynd i ganiatáu i hyn barhau?

"Dyma mwy o dystiolaeth fod rhaid i ni roi llais terfynol i'r bobl a chyfle i ddewis ymwrthod o Brexit. Dim ond drwy atal Brexit y gallwn ni achub swyddi a gwarchod economi Cymru."

Yn ôl AC Pen-y-bont a'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, mae hi'n "gyfnod o bryder mawr" i weithwyr.