Gweinidog yn galw am beidio gosod rhwydi i atal adar
- Cyhoeddwyd

Cafodd Cyngor Môn gwynion am ddefnyddio rhwydi ar safle datblygiad ger Llangefni
Mae gosod rhwydi ar goed a llwyni i atal adar rhag nythu yn dangos "anghydbwysedd ym mherthynas cymdeithas â byd natur", yn ôl y gweinidog tai.
Mae Julie James wedi ysgrifennu at holl awdurdodau lleol Cymru yn dweud y dylen nhw wneud popeth o fewn eu gallu i osgoi'r arfer.
Mewn llythyr at benaethiaid cynllunio, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, mae hi'n mynnu y dylai'r rhwydi gael eu defnyddio mewn "amodau eithriadol" yn unig.
Wrth ganmol y sylwadau, mae Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru yn dweud ei bod yn dangos "arweiniad gwych".

Mae'r rhwydi yn cael eu defnyddio yn Lloegr hefyd, fel y rhai yma yn Guildford
Dywedodd Ms James bod gan y system gynllunio "rôl allweddol i'w chwarae wrth helpu atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a gwella gwydnwch ecosystemau".
"Drwy gyfathrebu'n gynnar â datblygwyr fe ddylai awdurdodau lleol osgoi amodau lle mae angen defnyddio rhwydi," meddai.
"Mae'n allweddol bod pawb sydd ynghlwm â'r broses gynllunio yn gyfarwydd â chyfreithiau a pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth."
Fis diwethaf fe ddywedodd Cyngor Môn eu bod hwythau'n edrych am ffyrdd amgen o ddelio ag adar oedd yn nythu ar safle datblygiad ger Llangefni, yn dilyn cwynion gan y cyhoedd am y defnydd o rwydi.