Rhybudd melyn am gawodydd trwm yn y de-ddwyrain

  • Cyhoeddwyd
GlawFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod perygl o daranau mewn rhai ardaloedd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd melyn am gawodydd trwm ar gyfer rhannau o dde Cymru ddydd Gwener.

Mae'r rhybudd mewn grym yn y dwyrain rhwng 14:00 a 23:00

Fe all rhai ardaloedd weld hyd at 30mm o law, ac mae'n bosib y bydd rhai mannau'n cael 20mm o law dros gyfnod o awr.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd bod llifogydd yn debygol mewn rhai ardaloedd ac y gall cyflenwad trydan gael ei heffeithio hefyd.