Rhybudd melyn am law i'r de

  • Cyhoeddwyd
rhybuddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i rannau helaeth o dde Cymru ddydd Llun.

Bydd y rhybudd mewn grym tan 19:00 nos Lun.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw gael effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac fe fydd dŵr ar wyneb y ffordd yn golygu amseroedd teithio estynedig.

Gallai rhai cartrefi a busnesau weld llifogydd, ac mae'n bosib y bydd amharu ar gyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill.

Mae ardal y rhybudd yn ymestyn o Sir Benfro yn y gorllewin i Ben-y-bont ar Ogwr neu Fro Morgannwg i'r dwyrain.