Erlyn 'yn debygol' os ydy cytundeb masnach yn peryglu'r GIG
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai Llywodraeth Cymru "yn debygol" o erlyn Llywodraeth y DU petai cytundeb masnach ryngwladol a fyddai'n "sathru" ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Serch hynny, pwysleisiodd Eluned Morgan, y gweinidog dros faterion rhyngwladol, y byddai hynny'n "anodd i ni ei stopio" o safbwynt cyfreithiol.
Daw'r sylwadau yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr Arlywydd Trump y byddai'r GIG "ar y bwrdd" mewn trafodaethau masnach rhwng y DU a'r UDA.
Yn y Cynulliad ddydd Llun, eglurodd Ms Morgan nad oes "unrhyw obaith o gwbl y gwnawn ni ganiatáu i GIG Cymru fod yn rhan o unrhyw drafodaeth".
Ond cymharu'r bygythiad i rywun mewn eiliad o anobaith wnaeth yr Aelod Cynulliad Llafur, Alun Davies.
Tynnodd Mr Trump ei sylwadau yn ôl yn dilyn beirniadaeth gan nifer o Aelodau Seneddol Prydeinig.
Dywedodd Ms Morgan "na ddylai Llywodraeth y DU fod yn cyflawni unrhyw drafodaethau masnach ynglŷn â materion lle mae gennym ni bwerau heb ymgynghoriad pellach".
Esboniodd bod y ddwy lywodraeth yn gweithio ar gytundeb ar gyfer trafodaethau masnach y dyfodol - ond ni fyddai'n clymu'n gyfreithiol.
Diffyg cefnogaeth
Cafodd hynny ei wrthwynebu gan Mr Davies, gan ddweud ei fod eisiau cynllun "cyfreithlon lle bydd modd ei ddefnyddio i'ch dal chi [Ms Morgan] yn atebol" a'r un modd "i fy nghydweithwyr yn San Steffan".
Dywedodd Mr Davies nad oes ganddo lawer o ffydd yn y system rynglywodraethol bresennol, a bod dadl Ms Morgan ddim yn un "trawiadol iawn".
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, cyfaddefodd Ms Morgan nad yw'r system rynglywodraethol sydd ohoni yn "ddigonol" a bod angen i Lywodraeth y DU "weithio yn gyflym" i greu strwythur cryfach.
Ond dywedodd Mr Davies ei fod am weld "Deyrnas Unedig sydd heb gael ei chreu gan Lundain yn unig" a bod gan Lywodraeth Cymru rôl i'w chwarae i sicrhau hynny.