Rusty'r dylluan yn cael hyfforddiant hedfan yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Rusty
Disgrifiad o’r llun,

Ganwyd Rusty mewn caethiwed bum wythnos yn ôl

Mae tylluan gorniog fach bum wythnos oed wedi cael ei hyfforddi i hedfan yn Sir Gâr.

Ganwyd Rusty mewn caethiwed felly mae angen help llaw ychwanegol i ddysgu hedfan.

Mae Emma Hill yn gyd-berchennog ar Ganolfan Adar Ysglyfaethus yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, ac roedd hi'n fwy na bodlon ei hyfforddi.

"Mae'n aderyn barus iawn sydd wastad yn helpu," medd Ms Hill.

"Mae wedi bod yn byw gyda ni yn ein cartref ers iddo gyrraedd. Mae'n gwylio'r teledu gyda ni ac mae'n cysgu yn yr ystafell ymolchi.

"Unwaith wnaethom ddechrau ei hyfforddi, roedden ni'n gallu gweld ei fod yn chwilfrydig.

"Roedd wastad yn edrych ble roedd ei damaid bwyd nesaf am ddod, felly roedd mod ei ysgogi drwy gynnig bwyd.

"Dyma'r agosaf dwi erioed wedi dod at fabi - roedd yn deimlad balch iawn pan lwyddodd i hedfan am y tro cyntaf," meddai.

Bellach mae Rusty yn gallu hedfan ychydig o fetrau.