Achub pedwar o gar wrth i lifogydd daro'r gogledd ddwyrain
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi eu hachub drwy do car wedi iddo gael ei olchi i afon yn Sir y Fflint.
Cafodd dau oedolyn a dau o blant eu trin yn ardal Cilcain ger Yr Wyddgrug wedi'r digwyddiad am tua 18:20, yn ôl diffoddwyr tân.
Cafodd gyrrwr fan hefyd ei achub o'i gerbyd yn Wrecsam brynhawn Mercher, a bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi wrth i lifogydd daro rhannau o'r gogledd ddwyrain.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i gynorthwyo'r gyrrwr fan oedd wedi mynd yn sownd yn ei gerbyd ar Ffordd Cefn.
Gwagiwyd saith o dai ar Ffordd Bagillt ym Maes-glas, Sir y Fflint am 06:50.
Cafodd criwiau eu galw i ddau ddigwyddiad yn Wrecsam ac un ardal yn Sandycroft, Sir y Fflint fore Mercher.
Yn Sandycroft bu'n rhaid i'r ysgol gynradd gau am y diwrnod oherwydd llifogydd.
Mae diffoddwyr hefyd wedi bod yn brysur yn pwmpio dŵr oddi ar yr A539 yn Llangollen.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych fod problemau hefyd yng ngogledd y sir ar yr A5151 rhwng Dyserth a Rhuddlan.
"Mae Westbourne Avenue, Y Rhyl wedi cau o ganlyniad i lifogydd ac mae bagiau tywod wedi cael eu dosbarthu i'r cartrefi yno," meddai.
Cafodd Parc Gwledig Loggerheads, rhwng Yr Wyddgrug a Rhuthun ei gau gan fod lefelau'r dŵr yno yn parhau i godi.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae disgwyl i'r glaw arafu'r pnawn 'ma, ond disgwylir rhagor o law dros nos," meddai'r llefarydd.
Yn ardal Wrecsam, fe wnaeth Afon Alun orlifo yn Yr Orsedd, gyda'r heddlu yn rhybuddio y byddai'n rhaid cau ffyrdd cyfagos.
Dywedodd Natasha Kelly sy'n gweithio yn nhafarn yr Alyn Riverside Country Pub yn Yr Orsedd fod yna lifogydd peth cyntaf y bore.
"Mae lefel wedi parhau i godi ers hynny ac rydym wedi cael gorchymyn i gadw golwg arno bob awr.
"Mae yna rybudd tywydd arall am 18:00 ac mae'n codi ofn."
Bu oedi hefyd ar y gwasanaeth trenau rhwng Wrecsam ac Amwythig oherwydd y tywydd.
Rhybudd melyn
Yn Sir y Fflint, bu'n rhaid cau cyffordd yr A55 yn ardal Cei Connah oherwydd llifogydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor sir fod Stryd Fawr, Bagillt, ger tref Y Fflint wedi gorfod cael ei chau.
Bu diffoddwyr yn brysur ym Maes-glas ger Treffynnon lle bu'n rhaid i tua hanner dwsin o deuluoedd adael eu cartefi.
Yn yr un ardal bu'n rhaid cau'r A548 am gynfod oherwydd llifogydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bnawn Mercher roedd rhybudd llifogydd a nifer o rybuddion i baratoi rhag llifogydd mewn grym,, dolen allanol yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd llefarydd y dylai pobl gadw golwg ar eu gwefan am gyngor ynglŷn â beth i'w wneud cyn, yn ystod ac yn dilyn llifogydd.
Yn y cyfamser, mae criwiau yn Y Trallwng ym Mhowys wedi bod wrthi am 24 awr yn pwmpio dŵr o lawr gwaelod Neuadd y Dref ar ôl cael eu galw yno ddydd Mawrth.
Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd yn parhau mewn grym yn y gogledd a rhannau o'r canolbarth tan ddydd Iau.
Dywed yr heddlu y dylai gyrwyr gymryd gofal ar y ffyrdd.