Deignan yn ennill ras seiclo y Women's Tour

  • Cyhoeddwyd
Lizzie DeignanFfynhonnell y llun, BBC Sport

Lizzie Deignan oedd yn fuddugol wrth i ras seiclo merched y Women's Tour ddod i ben yn Sir Gâr.

Llwyddodd Deignan i orffen yn ddiogel yng nghanol y pac cwrso wrth i Amy Pieters o'r Iseldiroedd ennill cymal chwech, y cymal olaf, o Gaerfyrddin i Barc Gwledig Pen-bre, ger Llanelli.

Roedd Deignan ddwy eiliad ar y blaen i Kasia Niewiadoma o Wlad Pwyl.

Ddydd Gwener fe wnaeth y seiclwr gwblhau pellter o 140 cilomedr yng nghymal pump y ras rhwng Llandrindod a Llanelwedd.

Y Women's Tour yw'r ras seiclo bwysicaf i fenywod sy'n cael ei chynnal ym Mhrydain.

Mae'n cael ei chynnal am y chweched tro eleni ers cael ei lansio yn 2014.