Mwy o adar yn cael eu lladd yn anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Dywed y Gymdethas Gwarchod Adar (RSPB) bod y rheolau sy'n gwarchod adar yn cael eu hwfftio wrth i ffigyrau newydd ddangos bod mwy o adar yn cael eu lladd yn anghyfreithlon.
Cafodd pedair gwaith mwy o adar eu lladd yng Nghymru y llynedd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Yn ôl un o swyddogion ymchwil yr RSPB, Jenny Shelton, mae adar yn cael eu lladd fel arfer am eu bod yn berygl i adar eraill neu anifeilaid sy'n hela.
Dywed y naturiaethwr Iolo Williams ei fod yn "arfer Fictoriaidd sy'n digwydd yn y 21ain ganrif".
'Dim tystion'
Yn 2017 dim ond tri chofnod oedd am ladd adar - gwalch wedi ei wenwyno a barcud a boda wedi'u saethu.
Ond ers hynny mae'r nifer wedi codi'n sylweddol:
Yn 2018, cafwyd hyd i 11 cigfran a brân wedi'u gwenwyno - un ohonynt yn ardal Wrecsam a'r gweddill ym Mugeildy ym Mhowys;
Ym mis Mai cafwyd hyd i foda wedi'i saethu yn Nhylwch ym Mhowys a boda arall ym mis Chwefror yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys;
Roedd yna achos o foda wedi diflannu oddi ar Fynydd Rhiwabon, Wrecsam yn Awst ac un arall yn Chwefror.
Dywed y naturiaethwr a'r cyflwynydd Iolo Williams ei fod wedi cael sioc o glywed am y marwolaethau a bod y math yma o beth yn perthyn i'r gorffennol.
Dywedodd llefarydd ar ran tîm atal troseddu gwledig Heddlu Gogledd Cymru ei bod hi'n "anodd iawn" canfod pwy sy'n gwenwyno adar gan nad oes tystion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2019
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018