Diwrnod siomedig i Forgannwg yn Middlesex

  • Cyhoeddwyd
stirlingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Gwyddel Paul Stirling oedd seren Middlesex gyda batiad campus o 138

Roedd hi'n ddiwrnod anodd i gricedwyr Morgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Middlesex ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Radlett.

Dechreuodd y tîm cartref ar 151-3 fore Llun, ond roedd eu batwyr ar eu gorau gan lwyddo i gyrraedd cyfanswm o 410 erbyn diwedd y batiad.

Y seren oedd y Gwyddel Paul Stirling a sgoriodd 138.

Wrth ymateb i'r cyfanswm sylweddol fe gollodd Morgannwg wiced Nick Selman yn y belawd gyntaf, a hynny heb sgorio.

Fe gollon nhw ddwy wiced arall cyn cyrraedd 100 rhediad, ond erbyn i'r chwarae ddod i ben roedd David Lloyd a Billy Root wedi sefydlogi pethau rhywfaint.

Pan ddaeth y chwarae i ben roedd Morgannwg wedi cyrraedd 112-3.

Fe fyddan nhw'n dechrau'r trydydd diwrnod felly 298 y tu ôl i Middlesex gyda saith wiced mewn llaw yn eu batiad cyntaf.