Bachgen pump oed o Gymru wedi marw ar wyliau yng Ngroeg
- Cyhoeddwyd
Mae awdurdodau yng Ngroeg wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymchwilio i farwolaeth bachgen o Gymru ar ynys Kos.
Cafodd corff Theo Treharne-Jones o Ferthyr Tudful ei ganfod fore Sadwrn mewn gwesty ar yr ynys.
Cafodd rhieni'r bachgen a rheolwr y gwesty eu harestio - yn unol â threfn arferol y wlad yn dilyn unrhyw farwolaeth - a'u rhyddhau tan y gwrandawiad llys nesaf.
Mae awtopsi wedi'i gwblhau ac mae'r crwner yn aros am ganlyniadau adroddiad gwenwyneg.
Arestiwyd y rhieni ar amheuaeth o roi plentyn dan oed mewn perygl a chafodd rheolwr y gwesty ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod.
Dywedodd aelod o'r teulu bod y bachgen wedi'i ganfod mewn pwll nofio.
Roedd y teulu - oedd yn rhan o grŵp o 10 o bobl - wedi bod ar wyliau ar ynys Kos ers dydd Mercher.
Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydyn ni'n cefnogi teulu plentyn o Brydain fu farw yn Kos, Groeg, ac rydyn ni mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol."
Gan gydymdeimlo â theulu'r bachgen, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful mai "gyda thristwch aruthrol y clywodd yr awdurdod am farwolaeth un o'i ddisgyblion".
Ychwanegodd: "Bydd yr awdurdod lleol yn cefnogi'r staff yn ysgol Theo a'i gyd-ddisgyblion, ac yn cefnogi ysgolion ei frodyr a chwiorydd yn y sir."