Morgannwg yn nesáu at gêm gyfartal yn Middlesex
- Cyhoeddwyd
Mae gêm gyfartal yn edrych yn debygol rhwng Morgannwg a Middlesex wedi i'r trydydd diwrnod ddod i ben gyda'r timau'n dal ar eu batiad cyntaf.
Bydd Morgannwg yn dechrau'r diwrnod olaf ar sgôr o 274-9, 136 rhediad ar ei hôl hi.
Steve Finn oedd y seren i Middlesex wrth iddo gael pum wiced, tra mai David Lloyd oedd prif sgoriwr y Cymry ar 59 rhediad.
Dim ond 48 pelawd gafodd eu chwarae ddydd Mawrth oherwydd glaw, ac mae'r rhagolygon tywydd yn awgrym y gallai hynny barhau ar y diwrnod olaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2019