'Cyfres o wallau' cyn marwolaeth bachgen yn Kos

  • Cyhoeddwyd
Theo Treharne-JonesFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Theo Treharne-Jones ei ganfod mewn pwll nofio ar ynys Kos fore Sadwrn

Mae dyn wnaeth geisio achub bachgen pump oed o Ferthyr Tudful fu farw yng Ngroeg yn dweud bod "cyfres o wallau" wedi arwain at y drychineb.

Bu farw Theo Treharne-Jones tra ar wyliau gyda'i rieni - Richard a Nina - a theulu ehangach.

Cafodd ei ganfod mewn pwll nofio ddydd Sadwrn yn Atlantica Holiday Village ar ynys Kos.

Yn ôl Adam Holmes, sy'n rhedeg busnes hyfforddiant cymorth cyntaf, fe wnaeth Theo lwyddo i adael ei ystafell yn y gwesty am nad oedd modd ei gloi o'r tu mewn.

Dywedodd cwmni gwyliau TUI bod "diogelwch a lles" cwsmeriaid a staff yn flaenoriaeth iddynt, ond na fyddai'n gwneud sylw pellach tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r farwolaeth.

'Dim clem gan y staff'

Fe wnaeth Mr Holmes, 34 oed o Essex, feirniadu prosesau argyfwng y pentref gwyliau.

Dywedodd ei fod wedi rhuthro at y pwll ar ôl clywed bod pobl rhoi CPR i fachgen yno, a'i fod wedi helpu yn yr ymdrech i achub y bachgen.

Ychwanegodd bod rheolwr wedi dweud wrtho fod diffibriliwr ar y ffordd, ond yna ei fod wedi cael gwybod bod hwnnw yn y dderbynfa.

Ar ôl i'r ysgrifenyddes ddweud nad oedd un yno, bu'n rhaid i Mr Holmes redeg i feddygfa i gael y diffibriliwr.

Ffynhonnell y llun, Adam Holmes
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Adam Holmes, gyda'i gariad Mel yn y llun, berfformio CPR ar Theo

"Fe wnaeth hynny oll gymryd rhyw bedwar munud," meddai Mr Holmes.

"Dywedodd y gwesty bod y diffibriliwr fel arfer yn cael ei gadw yn y dderbynfa, ond bod rhywun wedi cael trawiad ar y galon ar y nos Wener ac na wnaeth y doctor ei ddychwelyd yno ar ôl hynny.

"Roedd hi'n rhwystredig iawn ei bod yn ymddangos nad oedd unrhyw gynllun argyfwng mewn lle, a dim clem gan staff y gwesty."

Dywedodd Mr Holmes bod aelod o staff TUI ac un o staff y gwesty fu'n helpu gyda'r CPS yn "wych" ond ei fod wedi'i synnu ar ddiffyg gweithredu eraill.

'Erioed wedi gweld rhywbeth tebyg'

"Roedd 'na gyfres o wallau," meddai.

"Pan wnaeth yr ambiwlans gyrraedd, dydw i erioed wedi gweld rhywbeth tebyg.

"Ni wnaeth y parafeddyg roi unrhyw driniaeth - roedd o eisiau i Theo gael ei godi a'i gymryd i'r ambiwlans.

"Roedd y giât wedi'i chloi, felly roedd yn rhaid i mi neidio dros y ffens ac roedd yn rhaid i Richard [tad Theo] ei basio i mi."

Ychwanegodd bod y parafeddyg ar ei ben ei hun, oedd yn golygu mai Mr Holmes a thad Theo oedd yn gorfod ceisio trin y bachgen ar y ffordd i'r ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Holmes bod Theo wedi llwyddo i adael ei ystafell yn y gwesty am nad oedd modd ei gloi o'r tu mewn

Dywedodd Mr Holmes bod teulu Theo mewn ystafell ar y llawr gwaelod, gyda dim clo ar y drws.

"Roedden nhw wedi rhoi bagiau o flaen y drws ond yn anffodus roedd Theo wedi deffro cyn pawb arall ac wedi llwyddo i gael ei hun allan o'r ystafell," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi gweld "nifer o blant" sydd wedi llwyddo i wneud hyn.

Mae nifer o sylwadau ar wefannau fel TripAdvisor hefyd yn dweud bod diffyg cloeon ar rai o'r drysau.

Dywedodd Mr Holmes bod teulu Theo yn "bobl cryf iawn" a'u bod "ddim eisiau i hyn ddigwydd eto".

"Maen nhw eisiau gweld mesurau'n cael eu rhoi mewn lle fel nad oes yr un teulu arall yn gorfod mynd try'r hyn y maen nhw'n mynd trwyddo."