RhAG yn cwyno'n ffurfiol am gost teithio i'r ysgol

  • Cyhoeddwyd
bws
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun newydd yn tanseilio addysg Gymraeg yn yr ardal, yn ôl RhAG

Mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ymyrryd yn ymgynghoriad cludiant Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot.

Pryder mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yw y byddai cynnydd costau teithio yn y sir yn tanseilio addysg Gymraeg yn yr ardal oherwydd cost ychwanegol i gyrraedd yr ysgol.

Byddai cynllun arfaethedig y cyngor yn cynyddu'r gost i £390 y flwyddyn i ddisgyblion.

Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG: "Bydd y cynnig yn cael effaith niweidiol iawn ar y niferoedd a fydd yn gallu derbyn addysg Gymraeg ôl 16 yn y sir a bydd yn trin y Gymraeg yn anffafriol o'i chymharu â'r Saesneg."

Ar hyn o bryd mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig teithiau am ddim i rai plant, ond mae'n rhaid i ddisgyblion sy'n byw yn agos a rhai dros 16 oed dalu.

Pris y cynllun i ddisgyblion meithrin a dan 16 yw £260 y flwyddyn, tra bod disgyblion chweched dosbarth yn talu £100.

Ond fe fyddai'r cynllun newydd yn cynyddu'r gost i £390 - sef £130 y tymor, neu £2 y dydd ar sail blwyddyn academaidd gyda 195 o ddiwrnodau.

'Pryder cenedlaethol'

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae'n gwbl glir i ni nad yw'r sir wedi cynnal asesiad i fesur effaith y newid polisi hwn ar y Gymraeg.

"Gyda chadarnhad yn dod ddoe bod Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi penderfynu diddymu cludiant am ddim i ddisgyblion ôl 16 o'r flwyddyn nesaf ymlaen, mae'n fater o bryder cynyddol yn genedlaethol bod mwy a mwy o siroedd yn mynd ati i adolygu eu polisïau cludiant, gyda'r nod o wneud arbedion ariannol.

"Felly, rydym yn galw ar y Comisiynydd i ymyrryd ar fyrder i sicrhau bod addysg Gymraeg yn cael ei hybu trwy bolisïau cludiant, yn unol â gofynion y gyfraith."

Dywedodd y cyngor sir wythnos diwethaf y byddai'r newid yn effeithio ar ysgolion o bob math, ac yn golygu bod y gost yn debyg i gynghorau eraill yn yr ardal.