Cynnydd cost teithio yn 'tanseilio addysg Gymraeg'
- Cyhoeddwyd

Mae rhieni ac ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn poeni am gynnig cyngor i gynyddu costau teithio i ddisgyblion.
Pryder ymgyrchwyr yw y byddai cynnydd costau teithio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn tanseilio addysg Gymraeg yn yr ardal oherwydd cost ychwanegol i gyrraedd yr ysgol.
Dywedodd un cynghorydd lleol wrth raglen Taro'r Post bod y cynnydd yn "gwbl afresymol".
Mae'r cyngor yn dweud y byddai'r newid yn effeithio ar ysgolion o bob math, ac yn golygu bod y gost yn debyg i gynghorau eraill yn yr ardal.
Beth yw'r cynnig?
Agorodd Ysgol Gymraeg Bro Dur ym Mhort Talbot yn 2018 fel chwaer ysgol i Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Mae'r chweched ddosbarth yn parhau ar safle'r ysgol yn Ystalyfera - taith o hyd at 20 milltir i'r rheiny sy'n byw yn ardal Port Talbot.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig teithiau am ddim i rai plant, ond mae'n rhaid i ddisgyblion sy'n byw yn agos a rhai dros 16 oed dalu.
Pris y cynllun i ddisgyblion meithrin a dan 16 yw £260 y flwyddyn, tra bod disgyblion chweched dosbarth yn talu £100.
Ond fe fyddai'r cynllun arfaethedig yn cynyddu'r gost i £390 - sef £130 y tymor, neu £2 y dydd ar sail blwyddyn academaidd gyda 195 o ddiwrnodau.
'Yn groes i'r polisi'
Pryder nifer yw y byddai'r gost yn annog teuluoedd i ddewis addysg ddi-Gymraeg dros ddanfon eu plant i Ysgol Ystalyfera, gan fod yr ysgol yn anodd i'w chyrraedd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae hyn yn mynd yn groes i'r polisi o geisio cael mwy i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg," meddai Alun Llywelyn, Cadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol a chynghorydd sir leol.
"Y gwir yw bydd pobl yn dewis peidio parhau ag addysg Gymraeg os fydd y polisi yma yn dod mewn oherwydd y gost, a gan nad yw'r drafnidiaeth gyhoeddus yn wych a fydda nhw methu cyrraedd yr ysgol," meddai.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ategu pryderon Mr Llywelyn mae Mabli Siriol, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith.
Dywedodd bod yr achos "yn dangos yr angen am ddeddf addysg newydd, lle byddai mynediad i addysg, a thrafnidiaeth am ddim".
"Dylai cost mynediad at addysg Gymraeg ddim bod yn ddibynnol ar fympwy cynghorau sir," meddai.
Mae ymgyrchwyr yn galw ar y llywodraeth a Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg i ymyrryd.
Pris tebyg i eraill
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot fe fyddai'r newid yn effeithio disgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg a Chymraeg ac ysgolion ffydd.
"Mae hyn yn golygu bydd yr un gost ar gyfer disgyblion o bob oed gan gynnwys meithrin, cynradd, uwchradd ac ar ôl-16.
Ychwanegodd y byddai'r "cynnydd yn golygu y bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn codi o gwmpas yr un pris a chynghorau cyfagos".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018