Stormydd o daranau yn debygol o daro Cymru o ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd
rhybudd melynFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd melyn yn gorchuddio Cymru a Lloegr am bron i ddeuddydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o stormydd taranau yn y dyddiau nesaf.

Bydd y stormydd yn debygol o daro Cymru rhwng 15:00 ddydd Sul a 23:59 ddydd Llun.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae'r stormydd yn debygol o ddod â glaw trwm a mellt, gyda'r posibilrwydd o lifogydd a phroblemau teithio.

Bydd glaw yn debygol o effeithio ar nifer o ardaloedd drwy Gymru o brynhawn Sul tan ddydd Llun.

Mae disgwyl i'r glaw trwm a'r stormydd taranau fod ar eu gwaethaf brynhawn Llun - gyda disgwyl 40mm o law i ddisgyn o fewn dwy i dair awr.