Rhybuddion wedi i ddrôn amharu ar adar yn nythu

  • Cyhoeddwyd
DrônFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim hawl hedfan drôn heb ganiatâd uwchben safleoedd milwrol fel Maes Tanio Castellmartin

Mae rheolwyr un o barciau cenedlaethol Cymru'n gofyn i bobl sy'n hedfan dronau sicrhau eu bod yn dilyn eu canllawiau , dolen allanoli osgoi aflonyddu ar fywyd gwyllt mewn ardaloedd gwarchodedig.

Daw apêl Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi achos honedig diweddar o gamddefnyddio drôn yn Staiciau'r Heligog ger Castellmartin.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi cysylltu â'r heddlu ynghylch yr achos, "ac maen nhw wedi derbyn manylion y rhai hynny sydd yn honedig wedi bod yn gweithredu'r drôn".

Mae RSPB Cymru'n pwysleisio nad oes caniatâd hedfan dronau dros eu gwarchodfeydd nhw ac yn annog pobl i ofalu nad ydyn nhw'n torri'r gyfraith nac yn tarfu ar adar sy'n nythu mewn mannau eraill.

Cafodd y drôn ei weld yn hedfan uwchben Staiciau'r Heligog ar adeg o'r flwyddyn pan mae adar y môr fel gwylogod (guillemots) a llursod (razorbills) yn dod i'r lan i nythu.

"Yn yr achos hwn, roedd y creigiau wedi'u gorchuddio gan filoedd o adar môr, a oedd yn eistedd yn ansicr gydag wyau wrth eu traed, " meddai Lynne Houlston, parcmon yr awdurdod yn ardal Maes Tanio Castellmartin.

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae adar fel y gwylogod yma yn Staiciau'r Heligog yn arbennig o sensitif yn ystod y cyfnod nythu

"Mae'r clogwyni o gwmpas Staiciau'r Heligog yn darparu safleoedd nythu hefyd ar gyfer gwylanod coesddu, brain coesgoch, gwylanod cyffredin, adar drycin y graig a chigfrain.

"Gall cigfrain ddechrau nythu mor gynnar â mis Mawrth. O ganol fis Awst tan fis Tachwedd, mae morloi bach yn cael eu geni yn yr ogofeydd a'r baeau hyn ac mae'r rhain hefyd yn cael eu gwarchod gan y gyfraith rhag cael eu haflonyddu.

"Yn ogystal â rhoi bywyd gwyllt mewn risg, roedd gweithredwr y drôn hwn hefyd yn hedfan heb ganiatâd mewn awyrofod milwrol sy'n gysylltiedig â Maes Tanio'r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastellmartin."

Dywedodd llefarydd RSPB Cymru: "Ni fyddem yn caniatáu i bobl hedfan dronau ar ein gwarchodfeydd a byddem bob amser yn annog gofal pryd fydd dronau yn cael eu defnyddio mewn mannau eraill gan ei bod yn anghyfreithlon tarfu ar adar sy'n nythu."