Cwmni adeiladu Jistcourt yn nwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
Jistcourt
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddi tua 50 o weithwyr Jistcourt yn y fantol

Mae cwmni adeiladu teuluol o Gastell-nedd Port Talbot wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan roi swyddi 50 o weithwyr yn y fantol.

Dywedodd cadeirydd Jistcourt bod y cam yn anorfod wedi bron i 40 o flynyddoedd mewn busnes.

"Wedi nifer o flynyddoedd anodd... ni allwn ni barhau i fasnachu," meddai Roy Norman mewn datganiad.

Mae gan y cwmni swyddfeydd ym Maglan a Bryste.

Ychwanegodd Mr Norman yn ei ddatganiad: "Byddwn yn cysylltu â'r holl gredydwyr yn yr wythnosau nesaf.

"Hoffwn ddiolch i'r staff ffyddlon, teulu a chyfeillion am ein cefnogi dros y blynyddoedd."

'Cyfnod pryderus'

Mae'r newyddion yn "drist eithriadol", medd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones.

"Bydd yn gyfnod pryderus i'w weithwyr a'i gyflenwyr lu ac fe wneith y cyngor beth bynnag sy'n bosib i'w cefnogi yn y cyfnod yma o ansicrwydd," meddai.

"Rydym eisoes yn gweithio i ddeall goblygiadau llawn y newyddion i'r economi leol a rhanbarthol ac i helpu lleihau unrhyw effeithiau negyddol all godi."

Ychwanegodd nad oes gan y cyngor unrhyw gytundebau gyda'r cwmni ar hyn o bryd felly na fydd effaith ar gynlluniau adfywio sy'n mynd rhagddynt yn y sir.