Tîm achub yn cynorthwyo dyn sâl ar gopa'r Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty wedi "digwyddiad cardiaidd" ar gopa'r Wyddfa nos Wener.
Ar y pryd roedd aelodau o Dîm Achub Mynydd Llanberis yn digwydd gwylio machlud hirddydd haf - doedden nhw ddim ar ddyletswydd ond cawsont eu galw i gynorthwyo am 22:45.
Fe fuon nhw a nyrs, nad oedd ar ddyletswydd, yn gofalu am y dyn nes i hofrennydd tîm gwylwyr y glannau gyrraedd.
Mae'r dyn yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.