Pryder am ddiffyg cerddorion llinynnol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Elin Haf Taylor: 'Mae'r celfyddydau wedi cael ei anghofio'

Mae prinder disgyblion sy'n defnyddio offerynnau llinynnol yng Nghymru, gyda rhai yn disgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng".

Mae pryder cynyddol hefyd am ddiffyg chwaraewyr mewn cerddorfeydd ar lefel genedlaethol, gyda rhai yn gorfod recriwtio chwaraewyr llinynnol dros y ffin.

Ond nid problem yng ngogledd Cymru yn unig ydy hon.

Fe wnaethom gysylltu ag awdurdodau lleol ledled y wlad, ac roedd y rhai a ymatebodd i gyd yn dangos gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n cael gwersi llinynnol yn yr ysgol.

Gwersi am ddim

Mae un ardal yng ngogledd Cymru wedi penderfynu mynd i'r afael â'r broblem ar lefel ysgol trwy gynnig hyfforddiant soddgrwth (cello) am ddim am 12 mis.

Ar ôl cynnal cyfres o weithdai ar draws yr ardal, mae 50 o ddisgyblion eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwersi, sydd wedi'u trefnu gan Wasanaethau Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Mae gwersi am ddim yn cael eu cynnig ar y soddgrwth i ddechrau, ond mae cynlluniau i ehangu i offerynnau llinynnol eraill yn fuan.

Bu'r tiwtor fydd yn eu dysgu - Elin Haf Taylor - yn cynnal gweithdai yn ysgolion yr ardal yn ddiweddar, gyda dros 50 o blant bellach wedi cofrestru am wersi.

Fel cerddor proffesiynol ei hun, mae Elin yn poeni am yr effaith ehangach os na fydd modd denu mwy o blant i chwarae.

"Mae 'na lai a llai o niferoedd yn dod trwodd - dwi'n meddwl bod llai o funding wedi bod," meddai.

"Mae'r celfyddydau wedi cael ei anghofio mewn ffordd.

"Mae o'n ffordd hwyl o ddysgu - ac i fi'n gymdeithasol oedd o'n ffordd i fi allu siarad efo plant eraill oedran fi - ffordd rili da i fi fynegi fy hun.

"Mae o'n grêt i blentyn gael y cyfle i drio'r offeryn cyn i'r rhieni orfod committio pres tuag ato fo."