Lee Waters: Llywodraeth yn 'esgus gwybod' am yr economi
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn "esgus gwybod be' rydyn ni'n ei wneud gyda'r economi" am 20 mlynedd, yn ôl y dirprwy weinidog dros yr economi.
Dywedodd Lee Waters bod ymdrechion i gryfhau'r economi ers datganoli heb weithio a bod angen meddwl am ffordd arall o fynd ati i wneud hynny.
Cafodd y sylwadau eu gwneud gan Mr Waters - AS Llanelli - wrth iddo lansio cronfa £3m i helpu busnesau cymdeithasol.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod "gwelliannau sylweddol" wedi bod i'r economi, ond bod "heriau newydd sylweddol yn dod i'r amlwg".
'Dim syniad be' i'w wneud'
Yn ôl gwefan WalesOnline, dywedodd Mr Waters: "Am 20 mlynedd rydyn ni wedi bod yn esgus gwybod be' rydyn ni'n ei wneud gyda'r economi - ond y gwirionedd ydy, does gennym ni ddim syniad be' rydyn ni fod i'w wneud.
"Mater o feddwl ar ein traed ydy hi - a ni'n bod yn onest am hynny.
"Rydyn ni wedi ceisio defnyddio'r holl ddatrysiadau confensiynol alle'n ni feddwl amdanyn nhw ar gyfer gweld cynnydd yn yr economi - ond dyw'r GDP heb symud ers 20 mlynedd."
Mae Cymru'n aml wedi ymddangos ar waelod tabl y DU ar fesuriadau cryfder yr economi.
'Di-flewyn ar dafod'
Wrth ymateb i sylwadau Mr Waters, dywedodd y AS Ceidwadol Andrew RT Davies ei fod yn "ei edmygu am siarad mor ddi-flewyn ar dafod".
Dywedodd Mr Drakeford: "Rydyn ni wedi gweld gwelliannau sylweddol ar draws sawl rhan o'n heconomi dros yr 20 mlynedd ddiwethaf ond mae'n amlwg bod heriau newydd sylweddol yn dod i'r amlwg.
"Mae'n rhaid i ni weithio'n wahanol i ddelio ag elfennau fel y cynnydd mewn mecaneiddio, awtomateiddio ac wrth gwrs, Brexit.
"Mae Lee Waters, fel dirprwy weinidog dros yr economi, yn gweithio o dan Ken Skates i ymateb i'r heriau yma a datblygu ffyrdd newydd ac arloesol i dyfu economi Cymru."