Rhybudd i'r henoed mewn tywydd poeth

  • Cyhoeddwyd
tywydd poethFfynhonnell y llun, EPA

Mae elusen Age Cymru wedi rhybuddio pensiynwyr a'r henoed i ofalu am eu hunain wrth i don o dywydd poeth daro Ewrop dros y penwythnos i ddod.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd y tymheredd yng ngorllewin Ewrop yn uwch nag erioed o'r blaen, gyda rhagolygon o 32C yn Llundain, 36c ym Mharis a 40C yn Madrid.

Er nad fydd Cymru mor boeth â hynny, mae'r Swyddfa Dywydd yn darogan 27C yng Nghaerdydd a Chaernarfon, ac mae Age Cymru'n dweud fod angen i bensiynwyr gymryd camau er mwyn cadw'n ddiogel.

Swyddog Mentrau Iechyd yr elusen yw Angharad Phillips, a dywedodd: "Y peth pwysicaf y bobl hŷn yw i yfed mwy nag arfer mewn tywydd poeth, gan yfed ychydig ond yn aml drwy'r dydd.

"Bydd dŵr, llaeth neu sudd ffrwythau yn gymorth i gadw'n oerach ac i arbed y galon rhag gweithio'n rhy galed.

"Mae'n hanfodol i warchod y croen a'r llygaid hefyd... ceisiwch wisgo dillad cotwm ysgafn, a defnyddiwch eli haul (ffactor 30 o leia') ar unrhyw groen sy'n agored, a gwisgwch sbectol haul neu het.

"Wrth i ni heneiddio mae'n mynd yn anoddach rheoli tymheredd ein cyrff felly mae'n bwysig cymryd camau i atal gorboethi.

Byddai'n well peidio mynd allan yn ystod oriau poethaf canol dydd, a gallwch gadw'ch cartref yn llai poeth drwy gau'r llenni a diffodd unrhyw declynnau electroneg sy'n gallu cynhyrchu gwres ychwanegol."