Morgannwg 216 ar y blaen cyn y diwrnod olaf

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd 90 Marnus Labuschagne fantais sylweddol i Forgannwg cyn y diwrnod olaf o chwarae

Mae gan Forgannwg fantais o 216 rhediad dros Sir Gaerwrangon ar ddiwedd trydydd diwrnod y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Cyrhaeddodd Sir Gaerwrangon gyfanswm o 370 yn eu batiad cyntaf ar ôl dechrau'r diwrnod ar 191-5.

Brett D'Oliveira oedd prif sgoriwr yr ymwelwyr i Erddi Soffia gyda 103, ond roedd ei dîm dal 79 rhediad y tu ôl cyfanswm batiad cyntaf Morgannwg.

Michael Hogan oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg gan gymryd pum wiced am 62 rhediad.

Ar ôl colli Owen Morgan yn gynnar yn yr ail fatiad, llwyddodd Marnus Labuschagne a Nick Selman, 90 a 42 heb fod allan, i adeiladu partneriaeth i Forgannwg cyn diwedd y chwarae.

Bydd Morgannwg yn ailddechrau'r chwarae ar 137-1 ddydd Mercher.