Canslo Sioe Caernarfon oherwydd pryderon ffliw ceffyl
- Cyhoeddwyd
Mae un o sioeau amaethyddol y gogledd wedi cael ei chanslo oherwydd pryderon ynghylch ffliw ceffyl (Equine Influenza).
Fe benderfynodd aelodau pwyllgor Sioe Caernarfon ganslo'r digwyddiad nos Fawrth wedi nifer o alwadau ffôn gan arddangoswyr yn dweud nad oedden nhw'n bwriadu cystadlu ddydd Sadwrn yma wedi achosion diweddar o'r ffliw yn siroedd Wrecsam a'r Fflint.
Doedd dim adrannau da byw na defaid yn sioe eleni, felly doedd parhau heb yr adran geffylau ddim yn opsiwn, medd y trefnwyr.
Dywedodd cadeirydd y sioe, Peter Rutherford bod y penderfyniad i ganslo'r digwyddiad yn un anodd ac "emosiynol".
"'Dan ni gyd yn siomedig ond oeddan ni'n gorfod neud y penderfyniad iawn," meddai wrth y Post Cyntaf.
"Mae o'n gallu amharu yn ddrwg iawn ar geffyla'. Mae o'n symud o un ceffyl i'r llall yn reit gyflym ac mae o'n para am tua tair wythnos."
Ychwanegodd ei bod hi'n gostus i arddangoswyr frechu eu ceffylau gan fod mwy nag un straen o'r ffliw wedi dod i'r amlwg ar draws y DU, a byddai sioe heb geffylau yn denu llai o bobl, gan amharu ar awyrgylch y digwyddiad.
Dywedodd y bydd y pwyllgor yn "trio codi pres yn ystod y flwyddyn i 'neud i fyny" am golledion yn sgil arian a gafodd ei dalu rhag blaen wrth drefnu sioe eleni na fydd modd ei hawlio'n ôl.
Mae'r sioe, sydd hefyd wedi cael ei 'nabod dros y blynyddoedd fel Sioe Gogledd Cymru, yn cael ei chynnal ar gaeau ar gyrion Caernarfon i gyfeiriad Bethel.
Mae nifer o rasys ceffylau wedi cael eu canslo ar draws y DU ers mis Chwefror gan gynnwys yng Nghae Rasio Ffos Las ger Llanelli wedi i achosion o'r ffliw ddod i'r amlwg.
Dydy'r cyflwr ddim yn effeithio ar bobl, ond maen nhw'n gallu helpu ei ledu o geffyl i geffyl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2018