Morgannwg yn parhau'n ddiguro yn dilyn gêm gyfartal

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Marnus Labuschagne yw'r chwaraewr cyntaf i sgorio canrif yn y ddau fatiad i'r Forgannwg ers 2005

Mae Morgannwg yn parhau'n ddiguro ym Mhencampwriaeth y Siroedd eleni ar ôl sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Sir Gaerwrangon ddydd Mercher.

Fe wnaeth y Cymry ddechrau'r diwrnod olaf ar 137-1, ac fe gyrhaeddon nhw sgôr o 246-5 cyn dod â'u batiad i ben amser cinio.

Roedd ganddynt y dasg wedyn o geisio bowlio'r ymwelwyr allan am lai na 326, ond gyda Sir Gaerwrangon ar 143-1 fe wnaeth y capteiniaid gytuno ar gêm gyfartal.

Cyn hynny llwyddodd Marnus Labuschagne i osod carreg filltir i Forgannwg trwy sgorio canrif yn y ddau fatiad - y chwaraewr cyntaf i wneud hynny i'r sir ers 2005.

Mae'r canlyniad yng Ngerddi Soffia yn golygu bod Morgannwg yn parhau ar frig yr Ail Adran gyda 127 o bwyntiau.