Y frech goch: Rhybudd i bobl fuodd mewn sinema a bwyty
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd i bobl fod yn wyliadwrus o symptomau'r frech goch yn Sir Ddinbych yn dilyn sawl achos diweddar.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn ymchwilio i dri achos o'r haint a dau achos posib arall.
Dywedodd ICC bod un sydd wedi'i heintio yn blentyn o Ysgol Clawdd Offa ym Mhrestatyn.
Dylai pobl sydd wedi ymweld â sinema, bwyty a chanolfan feddygol yn Y Rhyl fod yn arbennig o wyliadwrus, gan fod y rhai sy'n sâl wedi treulio amser yn y lleoliadau.
Mae'r frech goch yn heintus iawn ac mae'n gallu cael ei basio'n hawdd os nad yw pobl wedi'u brechu.
Mae'r symptomau'n cynnwys brech sy'n dechrau ar y pen ac sy'n ymledu dros weddill y corff, gwres uchel, peswch, trwyn yn rhedeg a llygaid coch.
Dywedodd ICC y dylai pobl fod yn arbennig o wyliadwrus os oedden nhw yn y lleoliadau canlynol:
Sinema VUE yn Y Rhyl yn ystod prynhawn Sadwrn 29 Mehefin;
Bwyty McDonalds ar stryd fawr Y Rhyl yn ystod prynhawn Sadwrn 29 Mehefin;
Ystafell aros frys neu wasanaeth meddyg allan o oriau Ysbyty Glan Clwyd nos Iau 20 Mehefin, a bore a nos Sul 30 Mehefin.
Un o'r firysau mwyaf heintus
Dywedodd Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y frech goch yn "un o'r firysau mwyaf heintus 'da ni'n gwybod amdanyn nhw".
"Mae'n hynod o hawdd os nad ydych chi wedi eich brechu o gwbl, os ydych chi'n dod yn agos i achos sy'n peswch chi'n mynd i ddal y frech goch - mae'n hynod o heintus," meddai.
Ychwanegodd bod un o bob 10 achos yn gorfod cael triniaeth ysbyty, ac er bod yr haint yn anghyffredin erbyn hyn, mae'n dal i achosi marwolaethau.
"Os ydych chi wedi cael eich brechu chi 99% wedi amddiffyn, ond mae e'n bosib weithiau, hyd yn oed os ydych chi wedi cael dwy ddos, i godi'r haint."
Pwysleisiodd y dylai pawb yn yr ardal fod yn ymwybodol: "Os ydych chi wedi bod yn un o'r lleoliadau yna, neu'r ysgol, ac mae'r symptomau gennych chi... cysylltwch â'ch meddyg teulu o flaen llaw [cyn mynd i'r feddygfa]."