Colled ariannol i gwmni tu ôl i gynlluniau Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o gwmnïau sydd y tu ôl i gynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn wedi cyhoeddi colled ariannol cyn treth o £1.68bn.
Fe gafodd cynlluniau i adeiladu gorsaf bŵer newydd ar safle Wylfa ei ohirio ym mis Ionawr eleni.
Yn ôl cyfrifon ar gyfer cwmni Horizon, mae'r cwmni wedi lleihau gwerth eu tir ac offer o £1.52bn oherwydd nad yw'r cwmni yn bwriadu eu defnyddio i adeiladu gorsaf bŵer newydd.
Mae'r cyfrifon hefyd yn dangos fod diswyddo a dod â chwmnïau i ben wedi ychwanegu £127m at gostau Horizon.
Dywedodd cyfarwyddwr Horizon, Tomorhiro Satake yn yr adroddiad blynyddol: "Yn dilyn gohirio'r rhan fwyaf o weithgareddau'r cwmni, a rhyddhau nifer o'r gweithlu, bydd Horizon yn symud fewn i gyflwr o ohirio.
"Mae hyn yn golygu bydd nifer fechan o staff yn parhau gyda nifer fechan o weithgareddau, gyda'r bwriad o ail ddechrau prosiectau Horizon, yn enwedig y prif ddatblygiad sef Wylfa Newydd.
"Bydd gweithgareddau tra yn y cyfnod o ohirio yn gweld y cwmni'n parhau i gyfathrebu gyda Llywodraeth y DU am ddatblygiadau a model cyllid newydd allai gefnogi'r posibilrwydd o ail ddechrau," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019