Cynulliad: Ymddygiad amhriodol 'dal yn broblem'
- Cyhoeddwyd
Mae ymddygiad amhriodol yn parhau yn broblem yn y Cynulliad Cenedlaethol, medd datganiad ar y cyd gan arweinwyr pedwar o'r pleidiau gwleidyddol.
Fe wnaeth arolwg o staff ac aelodau cynulliad ganfod fod 23 o bobl wedi cael profiad o ymddygiad amhriodol.
Mae'r ffigwr yn is na'r llynedd, ond dywed yr arweinwyr fod "gweithredodd nifer bach yn pardduo pawb".
Fe fydd ymgyrch yn cael ei lansio i herio ymddygiad o'r fath.
Hwn yw ail flwyddyn Arolwg Urddas a Pharch, sy'n rhoi'r cyfle i staff ac aelodau cynulliad sôn am eu profiadau yn ddienw.
O'r 177 wnaeth ymateb:
Dywedodd 142 nad oeddynt wedi cael unrhyw brofiad o ymddygiad amhriodol yn y 12 mis diwethaf;
Roedd 16 wedi cael profiad ar sawl adeg;
Saith wedi cael un profiad o'r fath;
Roedd chwech ddim am ddweud, gyda chwech arall heb ateb y cwestiwn.
Tra bod nifer y rhai sy'n dweud iddyn nhw ddioddef profiadau amhriodol wedi disgyn o 37 i 23, dywed adroddiad fod y ffigwr "yn parhau yn uchel ac yn awgrymu fod mwy o waith angen ei wneud er mwyn sicrhau diwylliant o urddas a pharch yn ein hymddygiad dyddiol tuag at ein gilydd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2018