Arolwg yn datgelu honiadau pellach o ymosodiadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod angen ymchwilio i gwynion "cyfredol a hanesyddol", wedi i honiadau newydd o ymosodiadau rhywiol, aflonyddu rhywiol a bwlio ddod i'r amlwg.
Mae ymchwiliad gan raglen BBC Wales Live wedi canfod fod tri aelod staff sy'n gweithio i ACau wedi gwneud dau honiad o ymosodiadau rhyw yn erbyn staff BBC ac un yn erbyn Aelod Cynulliad.
Dywedodd chwech aelod staff eu bod wedi profi bwlio neu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Mae'r BBC yn dweud y byddan nhw'n trin yr honiadau "o ddifrif".
Dywedodd y gweinidog yn Llywodraeth Cymru, Julie James bod angen codi llais am achosion o ymddygiad amhriodol, a delio â nhw.
Holiadur
Cafodd yr honiadau anhysbys eu gwneud mewn ymateb i holiadur a gafodd ei anfon at 247 o staff cynorthwyol Aelodau Cynulliad, fel rhan o waith ymchwil gan Wales Live ym mis Ebrill.
Roedd yr holiadur yn gofyn cwestiynau am aflonyddu rhywiol a bwlio yn y Senedd ac mewn swyddfeydd etholaethol.
Fe gafwyd 30 ymateb i'r ymchwiliad.
Dywedodd tri a ymatebodd eu bod wedi dioddef ymosodiad rhyw yn y gweithle:
Dywedodd un fod person oedd yn gweithio i'r BBC wedi cyffwrdd yn amhriodol ynddo/ynddi
Dywedodd un arall fod aelod o staff y BBC wedi ymosod yn rhywiol arno/arni
Dywedodd un fod AC wedi ymosod yn rhywiol arno/arni
Gan fod yr holiadur yn un anhysbys, doedd dim modd gwirio'r honiadau, a doedd y dystiolaeth ddim yn cynnwys unrhyw enwau, ond mae'r ymatebion wedi eu trin â pharch.
Fe wnaeth chwech aelod staff honiadau ychwanegol o ymddygiad amhriodol a ddywedodd eu bod wedi profi bwlio neu aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Dywedodd un fod newyddiadurwr i'r BBC wedi ymddwyn yn fygythiol tuag ato/ati.
Yn ôl un arall, roedd yna "awyrgylch wenwynig ofnadwy" ac y byddai adrodd honiadau wedi bod yn ddibwynt gyda'r "AC yn farnwr, yn rheithgor a dienyddiwr ac os nhw yw'r bwli does dim posib gwneud unrhyw beth".
Dywedodd un person fod rhywun wedi "gweiddi neu regi arnyn nhw" a'u bod wedi eu "bygwth neu eu brawychu".
Doedd yna ddim beirniadaeth am y modd y deliwyd â chwynion.
Ymatebion positif
Roedd ymatebion eraill yn fwy positif, gan ddweud fod yr awyrgylch yn y Cynulliad yn "gyfeillgar, agored ac yn lle sy'n rhoi boddhad ac yn llawer gwell na'r ddelwedd oedd wedi ei rhoi ar y cyfryngau."
Ddydd Mawrth, dywedodd y Llywydd Elin Jones fod yna broblemau "difrifol" gydag ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad.
Daeth arolwg arall o staff ac ACau gan Gomisiwn y Gynulliad - y corff sy'n rheoli'r Cynulliad - i'r casgliad fod 37 o bobl wedi profi achosion o ymddygiad amhriodol.
Dywedodd 37 arall oedd wedi profi neu fod yn dyst i'r fath ymddygiad nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i neb yn swyddogol.
Cafodd cyfanswm o 128 o ymatebion eu derbyn gyda 16.8% yn cymryd rhan - tua un o bob chwech.
Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Yn amlwg, mae yna honiadau difrifol ac rydym yn mynd i edrych yn ofalus ar y wybodaeth sydd wedi ei darlledu heno.
"Mae hi'n hynod o anodd gwirio'r math yma o honiadau, maen nhw wedi eu rhannu'n gyfrinachol ac rydym yn parchu hynny.
"Dwi wedi bod yn y swydd am saith mlynedd a dwi erioed wedi clywed honiadau o'r math hwn yn erbyn unigolion o'r blaen, ond dydyn ni ddim yn hunanfodlon - os cawn ni unrhyw wybodaeth y gallwn ni ymchwilio iddo, byddwn yn gwneud hynny'n gadarn a thrylwyr."
'Urddas a Pharch'
Mewn datganiad, cyfeiriodd y Cynulliad Cenedlaethol at y polisi Urddas a Pharch gafodd ei gymeradwyo'n ddiweddar, lle bydd yna ymchwiliad yn cael ei gynnal i gwyn yn erbyn unrhyw un sy'n gweithio'n neu'n ymweld â'r Cynulliad.
Ychwanegwyd: "Does dim lle i unrhyw fath o ymddygiad amhriodol o fewn y Cynulliad.
"Mae tystiolaethau'r menywod sydd wedi eu cyfweld gan Wales Live a chanlyniad arolwg y BBC ynghyd â chanlyniadau ein harolwg ni, yn dangos yn glir bod rhaid gwneud cymaint mwy i sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn lle diogel i bobl weithio, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystad ac unrhyw un sy'n delio â ni.
"I'r rhai sy'n profi ymddygiad amhriodol, ym mha bynnag ffurf, rhaid i ni sicrhau eu bod yn teimlo y gallan nhw ddod aton ni am gyngor a chefnogaeth, yn ogystal â gwneud cwyn os dymunan nhw wneud hynny."
Dywedodd y BBC y gall unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach ddod ymlaen yn ddienw neu drwy sefydliad annibynnol Expolink.
Mae gwybodaeth a chefnogaeth i gael ar faterion yn ymwneud â'r erthygl hon i'w gael ar BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018