'Erthygl yn awgrymu 'mod i'n dwp i ddysgu Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
SunFfynhonnell y llun, @TheSun
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Geordan Burress, roedd y stori'n awgrymu ei bod hi'n "dwp" i ymdrechu i ddysgu Cymraeg

Mae Americanes sy'n siarad Cymraeg yn rhugl er ei bod yn byw yn Ohio wedi beirniadu dehongliad erthygl ar wefan The Sun am ei phenderfyniad i ddysgu'r iaith.

Yn ôl Geordan Burress, mae'r erthygl "yn awgrymu, yn y bôn, 'mod i'n dwp i ymdrechu i ddysgu iaith 'sydd ddim yn cael ei siarad'".

Mae hi'n dweud bod siarad Cymraeg wedi trawsnewid ei bywyd, a'i bod wedi defnyddio'r iaith yn gyson ar-lein ers dechrau ei dysgu yn 2011.

Dywedodd The Sun bod yr erthygl yn amlygu cariad Ms Burress at y Gymraeg ac yn pwysleisio bod bron i 20% o boblogaeth Cymru'n siarad yr iaith.

'Am bennawd'

Mae pennawd y stori'n datgan bod Americanes wedi "treulio wyth mlynedd yn dysgu Cymraeg ond i ddarganfod neb ar gael i siarad â hi oherwydd does neb braidd yn ei siarad".

Mae Ms Burress yn cael ei dyfynnu'n dweud iddi gyhoeddi fideo ohoni'n siarad Cymraeg ar-lein yn 2016 er mwyn cysylltu â siaradwyr eraill am nad oedd yn bosib iddi ymarfer yr iaith gydag unrhyw un roedd hi'n ei adnabod yn yr Unol Daleithiau.

Disgrifiad,

Fe wnaeth Cymru Fyw gwrdd â Geordan Burress ar ymweliad â Chymru yn ddiweddar

"Am bennawd," meddai Ms Burress wrth ymateb i neges Twitter y papur newydd yn cysylltu â'r erthygl.

"Pan gytunais i rannu fy stori... doedd gen i ddim syniad y byddai'n cael ei hadrodd fel hyn. Mae'r dehongliad, yn y bôn, yn awgrymu 'mod i'n dwp i ymdrechu i ddysgu iaith 'sydd ddim yn cael ei siarad'.

"Pan ddechreuais i ddysgu Cymraeg, doedd dim disgwyl o gwbl y byddwn ni'n gallu ei siarad gyda chriw o bobol yn yr Unol Daleithiau.

"Wnes i ddechrau dysgu oherwydd chwilfrydedd ac am fy mod yn meddwl bod o'n cŵl, ar ôl clywed yr iaith mewn cerddoriaeth."

'Rhagfarn, amharch, casineb'

Ychwanegodd bod siarad Cymraeg wedi newid ei bywyd "mewn sawl ffordd", a bod gwneud ffrindiau newydd ar draws y byd wedi ei helpu trwy gyfnod o iselder.

Dywedodd hefyd bod dysgu Cymraeg wedi tanlinellu iddi "bod yna lawer iawn o ddiffyg gwybodaeth, rhagfarn, amarch a chasineb noeth at ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol".

"Rydw i hefyd wedi dysgu rhywbeth newydd heddiw: pa mor bell allan o gyd-destun mae straeon yn gallu cael eu dehongli," meddai.

Mae'r erthygl wedi ennyn ymatebion beirniadol gan bobl sy'n dweud bod y papur yn dilorni iaith a diwylliant Cymru, ond gwadu hynny mae The Sun.

Dywedodd llefarydd ar ran The Sun wrth Cymru Fyw: "Rydym yn hyderus y bydd unrhyw un sy'n darllen yr erthygl gyfan, yn hytrach na brawddegau unigol allan o gyd-destun, yn cydnabod bod yr erthygl yn amlygu cariad Ms Burress at yr iaith.

"Rydym hefyd yn mynd i drafferth fawr i nodi bod bron i un o bob pump o boblogaeth Cymru'n siarad yr iaith, ac yn cynnwys dyfyniad gan [Fardd Cenedlaethol Cymru] Ifor ap Glyn am ei gwerth i'r rhai sy'n ei siarad."