Dyn angen triniaeth ar ôl ymosodiad gan jac-do yn Y Bala
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi cael eu galw i ymyrryd yn dilyn problemau gyda jac-dos yn Y Bala.
Yn ôl trigolion lleol maen nhw'n achosi budreddi, ac mae un achos wedi bod o ddyn yn dioddef ymosodiad gan un o'r adar.
Dywedodd Eryl Edwards ei fod wedi cael ei bigo ar ei ben gan un o'r jac-dos, a'i fod wedi gorfod cael triniaeth i atal y gwaedu.
Nawr mae Cyngor Tref y Bala wedi cysylltu gydag adran amgylchedd yr awdurdod lleol er mwyn ceisio datrys y broblem.

Dywedodd Eryl Edwards bod y digwyddiad wedi ei "ddychryn"
Wrth sôn am ei brofiad yn Y Bala dywedodd Mr Edwards, sy'n byw yn Llanuwchllyn: "Y diwrnod yma roedd y coed ar y stryd yn llawn o adar.
"Dwi erioed wedi clywed cymaint o sŵn. Es i yn fy 'mlaen a'r peth nesa mi ddaeth 'na aderyn 'ma, yr hen jac-do, a'm mhigo fi ar dop fy mhen," meddai.
"Roedd o'n brifo'n ofnadwy a dweud y gwir, ro'n i wirioneddol yn teimlo'n sâl ar y pryd ac oedd fy mhen i'n waed i gyd, ac wedyn mi es i'r syrjeri ac mi ges i driniaeth yn fanno.
"Mi oeddwn i wedi dychryn a dweud y gwir."

Mae Eifion Roberts, Maer y Bala, wedi galw am gymorth swyddogion amgylchedd Gwynedd
Dywedodd Eifion Roberts, Maer y Bala, fod yna gostau glanhau oherwydd y llanast sy'n cael ei achosi gan yr adar.
'Mae rhifau'r jac-dos wedi cynyddu'n arw ar y stryd fawr," meddai.
"Mae eu sŵn a'u baw yn achosi trafferthion, ac yn costio'n eithaf drud i'r Cyngor Tref i orfod glanhau llochesi bws ac ati bob mis oherwydd y llanast.
"Eleni ydy'r tro cyntaf i ni gael adroddiad o un yn ymosod ar rywun.
"Oherwydd hynny 'den ni wedi cysylltu efo adran yr amgylchedd Cyngor Gwynedd yn gofyn fedran nhw wneud rhywbeth ynglŷn â'r nifer o jac-dos sydd yna ar y stryd, a gobeithio eu symud ymlaen i'w cynefin naturiol yn y wlad yn lle'u bod nhw yn y dref."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r jac-do yn aderyn sydd wedi ei warchod dan Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981, sy'n golygu nad oes hawl amharu arnynt heb drwydded arbennig os ydynt yn achosi peryg penodol.
"Er nad ydy Adran Gwarchod y Cyhoedd y cyngor wedi derbyn unrhyw gwynion penodol am y mater yma hyd yn hyn, byddai swyddogion yn hapus i drafod unrhyw bryderon penodol gyda Chyngor Tref Y Bala."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018