2,000 o gywion ieir wedi marw mewn tân yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
Cywion ieirFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 2,000 o gywion ieir wedi marw wedi i ddwy sied dofednod gael eu dinistrio'n llwyr gan dân yn Sir Ddinbych.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i dân amaethyddol yn ardal Prion ger Dinbych toc cyn 22:30 nos Wener.

Dywedon nhw fod y tân wedi cynnau ar ddamwain ac mai'r ffynhonnell oedd lampau oedd yn cael eu defnyddio i gynhesu'r siediau.

Ychwanegodd y gwasanaeth bod pedair injan dân wedi mynychu a'u bod wedi gadael y safle toc wedi 02:00 fore Sadwrn.