Ail ddiwrnod Morgannwg yn erbyn Middlesex
- Cyhoeddwyd
David Lloyd oedd sgoriwr gorau Morgannwg (67) yn eu batiad cyntaf ar ail ddiwrnod gêm Ail Adran Pemcampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd.
Roedd yr ymwelwyr eisoes wedi sgorio 384 yn eu batiad cyntaf, a chyda Morgannwg wedi colli pedair wiced am 25 rhediad ar y diwrnod cyntaf roedd cryn dasg yn eu hwynebu ddydd Sul.
Roedd pawb allan am 171 cyn amser te.
Dewisodd Middlesex ddychwelyd i'r llain yn hytrach na gorfodi Morgannwg i barhau gyda'r bat.
Erbyn diwedd y chwarae roedd Middlesex yn 189 am 5 wiced ac felly mae nhw 402 rhediad ar y blaen i Forgannwg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019