Morgannwg yn colli am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae tîm criced Morgannwg wedi colli ym Mhencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf y tymor hwn.
Wrth geisio cyrraedd nod anferthol o 556 i ennill y gêm yn erbyn Middlesex yng Nghaerdydd, fe ddisgynnodd y batwyr yn brin iawn o'r targed, gan golli o 256 o rediadau.
Cafodd y difrod ei wneud ar ddau ddiwrnod cynta'r gêm wrth i'r ymwelwyr sgorio 384 yn eu batiad cyntaf, gyda Morgannwg ond yn cyrraedd 171 fel ymateb.
Gyda Middlesex yn ychwanegu 342 yn eu hail fatiad i osod y targed enfawr, roedd hi'n dalcen caled i'r tîm cartref.
Aeth pethau'n waeth wrth i Forgannwg golli chwe wiced ddydd Llun gan sgorio dim ond 171, ac roedd y pwysau'n ormod ar y batwyr oedd yn weddill.
Er i Charlie Hemphrey, Graham Wagg a Marchant de Lange geisio brwydro'n ôl, fe ddisgynnodd y wiced olaf cyn cinio ar y pedwerydd diwrnod gyda Morgannwg ar gyfanswm o 299.
Er y golled mae Morgannwg yn parhau'n ail yn y tabl, ac mae'r gobeithion o ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor i adran gynta'r bencampwriaeth yn dal yn fyw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019