Plentyn ag anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan gar

  • Cyhoeddwyd
Heol ScwrfaFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod y cerbyd wedi gadael y ffordd a tharo grŵp o bobl ifanc

Mae dau blentyn wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu taro gan gerbyd ym Merthyr Tydfil nos Fawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Scwrfa am tua 19:00 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car Audi A4 a grŵp o bobl ifanc.

Cafodd dau fachgen, 10 a 12 oed, eu cludo i'r Ysbyty Athrofaol, Caerdydd.

Mae'r bachgen 12 oed wedi dioddef anafiadau difrifol ac yn parhau yn yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y gyrrwr 32 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un sydd gyda gwybodaeth neu fideo o'u ceir o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.