Rhybudd o law trwm ar gyfer siroedd y de
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd melyn o law trwm wedi ei gyhoeddi ar gyfer y rhan fwyaf o siroedd y de yn ystod oriau brig bore Gwener.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl hyd at 20-30 mm o law mewn cyfnod o bum awr.
Mae rhybudd i yrwyr gymryd gofal, a'i bod yn debygol y bydd siwrneau bysiau a threnau yn cymryd yn hirach.
Yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, a Thorfaen.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 05:00 a 10:00.