Plancton bio-ymoleuol yn goleuo arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llun y ffotograffydd Kris Williams o blancton bio-ymoleuol yn ardal Trwyn Penmon ym MônFfynhonnell y llun, Kris Williams
Disgrifiad o’r llun,

Tynnodd y ffotograffydd Kris Williams y llun yma yn ardal Trwyn Penmon ym Môn ar 26 Mehefin

Mae ffotograffwyr a phobl sydd â diddordeb yn y byd natur wedi disgrifio'r profiad "hudol" o weld ffenomen naturiol sy'n goleuo rhannau o arfordir Cymru ar hyn o bryd.

Cyfeirio maen nhw at fywoleuni, sef y golau sy'n deillio o gelloedd plancton - creaduriaid byw fel pryfed tân a sglefrod môr - wrth iddyn nhw gael eu tarfu gan donnau neu gerrynt.

Mae hynny'n eu hamddiffyn gan hudo creaduriaid ysglyfaethus at unrhyw greadur arall sy'n ceisio bwyta'r plancton.

Mae'r ffenomen yn fwy cyffredin mewn rhannau mwy cynnes na Chymru o'r byd, ond yn amlwg yma dan rai amgylchiadau.

Disgrifiad,

O dan rai amgylchiadau, bydd moroedd Cymru yn goleuo yn y nos

Cafodd y ffenomen ei gweld yn gyntaf yng Nghymru eleni gan y ffotograffydd Kris Williams - ym Miwmares ar 24 Mehefin.

Mae wedi bod yn tynnu lluniau o blancton bio-ymoleuol yng Nghymru ers 2016.

Cafodd yr achos cyntaf oddi ar arfordir de Cymru eleni ei gofnodi ar 28 Mehefin gan ffotograffydd arall, ger Trwyn yr As ym Mro Morgannwg.

Mae gan dudalen Facebook grŵp Bioluminescent Plankton Watch Wales dros 6,000 o aelodau sy'n rhannu eu lluniau a'u profiadau.

Ffynhonnell y llun, Kathryn Donavan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kathryn Donovan a'i theulu'n hoffi chwilio am blancton bio-ymoleuol

Mae Kathryn Donovan o Gaerdydd wedi teithio gyda'r hwyr deirgwaith gyda'i gŵr a'i phlant i draeth Aberafan ym Mhort Talbot i chwilio am blancton bio-ymoleuol gan eu disgrifio fel "antur teuluol".

"Gynted â wnaethon ni symud o'r goleuadau stryd, roedden ni'n gallu gweld y golau glas hardd, llachar ar draws y môr.

"Aethon ni i drochi yn y môr. Roedd yn hudolus. Maen nhw'n dal i drafod y peth nawr.

"Roedd pob sblash a naid yn goleuo'r môr. Fydd e ddim yn brofiad fyddan ni'n ei anghofio'n hawdd."

Ffynhonnell y llun, Thomas Winstone
Disgrifiad o’r llun,

Fe dynnodd Thomas Winstone y llun yma yma ym Mae Caswell ym Mhenrhyn Gŵyr wedi nifer fawr o ymweliadau

Dywedodd Pete Ryan, un o weinyddwyr y grŵp Facebook, bod o leiaf un person wedi teithio'n arbennig o Lundain sawl tro cyn llwyddo i weld y ffenomen.

Ond mae'n rhybuddio bod yr arfordir yn gallu bod yn beryglus ac yn annog pobl i beidio nofio yn y tywyllwch.

Ffynhonnell y llun, Dave Swinburn
Disgrifiad o’r llun,

Llun David Swinburn a dynnwyd yn Nhrwyn Du, ym Môn ar 4 Gorffennaf