Geraint Thomas yn colli tir ar y crys melyn
- Cyhoeddwyd
I rai sylwebwyr, roedd Cymal 13 o'r Tour de France 2019 yn gyfle i Geraint Thomas ennill tir ar Julian Alaphilippe yn y ras am y crys melyn.
Ond yn groes i'r disgwyl efallai, Alaphilippe enillodd y cymal gyda'r amser cyflymaf, gan ychwanegu 14 eiliad at y bwlch rhyngddo a Thomas, sy'n dal yn ail.
Roedd Thomas de Gendt wedi gosod amser gwych yn gynnar yn y cymal, ond daeth Thomas i mewn 21 eiliad cyfan yn gynt nag o.
Thomas oedd yr olaf ond un i rasio, ac roedd Alaphilippe wedi dechrau'r gyflym iawn.
Llwyddodd i gadw'r fantais gan groesi'r llinell mewn amser o 35 munud union.
Canlyniad Cymal 13
1. Julian Alaphilippe - 35 munud 00 eiliad
2. Geraint Thomas - +14 eiliad
3. Thomas de Gendt - +36 eiliad
Tour de France ar ddiwedd Cymal 13 :-
1. Julian Alaphilippe
2. Geraint Thomas - +1 munud 26 eiliad
3. Steven Kruiswijk - +2 funud 12 eiliad
Mae llawer o rasio yn weddill wrth gwrs. Bydd y Tour yn anelu am y mynyddoedd dros y penwythnos, ac mae Team Ineos yn cael eu hystyried yn gryf yno o gymharu â thîm Alaphilippe.
Dyw gobeithio Thomas o gadw'r teitl ymhell iawn o fod ar ben felly, ond roedd canlyniad dydd Gwener yn ergyd annisgwyl i'r gobeithion hynny.
Wedi'r cymal, dywedodd Thomas wrth ITV 4: "Doeddwn i wir ddim yn disgwyl hynna gan Julian... mae'n mynd yn dda iawn a fe yw'r ffefryn ar hyn o bryd.
"Y ffordd mae e'n reidio ar y funud, os all e barhau gyda hynny fe neith e ennill.
"Ond mae ffordd bell i fynd, a llawer o gymalau caled i ddod."