Cyhoeddi enw'r dyn a gafodd ei drywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae teulu Asim Khan yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn 21 oed a gafodd ei drywanu yn ystod oriau mân fore Sul yng nghanol Caerdydd.
Roedd Asim Khan yn dod o Grangetown a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i Heol Eglwys Fair oddeutu 04:50 fore Sul wedi adroddiad o ymosodiad.
Mae dyn lleol 27 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac ar hyn o bryd yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.
Mae teulu Mr Khan yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Richard Jones: "Mae dyn ifanc wedi colli ei fywyd mewn modd drasig.
"Mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos bod ffrwgwd wedi dechrau ger McDonald's a symud tuag at siop Oxfam - yn y fan honno fe gwympodd y dyn wedi iddo gael ei drywanu."
Mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.

Mae'r ymchwiliad ar Heol Eglwys Fair yn parhau

Roedd presenoldeb yr heddlu yng nghanol y brifddinas yn amlwg ddydd Sul