'Angen cynlluniau gwell i ddelio â mewnfudwyr i gefn gwlad'

  • Cyhoeddwyd
Aled Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Aled Roberts yn trafod y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg yn y sector amaeth ac yng nghefn gwlad ar faes y Sioe Fawr ddydd Llun

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, wedi dweud bod angen bod yn llawer mwy blaengar wrth ddelio â phobl sy'n symud mewn i gymunedau cefn gwlad.

Dywedodd wrth Post Cyntaf fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r hyn mae o'n ddisgrifio fel "diffyg cynllunio ar lefel genedlaethol o ran cynlluniau trochi".

Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn trafod y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg yn y sector amaeth ac yng nghefn gwlad ar faes y Sioe Fawr ddydd Llun.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod canolfannau trochi yn rhan allweddol o'r system addysg.

'Gall statws yr iaith wanhau'

Dywedodd Mr Roberts: "Mae 'na ddiffyg cynllunio ar lefel genedlaethol o ran cynlluniau trochi. Mae nhw wedi bod yn cael eu hystyried fel mater i'r cynghorau sir, ddim digon yn fy marn i, o ran lledaenu arfer da.

"Mae 'na arfer da mewn ardaloedd megis Gwynedd ond mae 'na ardaloedd eraill lle ar hyn o bryd mae hi'n anodd iawn, er enghraifft, i chi gael cynllun trochi ar gyfer plant yng nghyfnod allweddol 3 - ar ddechrau eu gyrfa yn yr ysgol uwchradd mewn rhai ardaloedd.

"Dwi'n meddwl fod angen i'r llywodraeth fynd i'r afael â hynny achos heblaw bo ni'n sicrhau bod y pobl ifanc yma sy'n symud i fewn i'r ardal yn medru'r Gymraeg mae 'na rywfaint o wanhau o ran statws yr iaith, o ran iaith cymunedol fyw.

"Sut ydan ni'n cynnal ysgolion bach gwledig a pethau felly? Hwyrach bod 'na angen i ni wahaniaethu o ran y ffordd mae'r ysgolion yna'n cael eu hariannu. Ond hefyd mynd i'r afael hefyd efo polisiau trochi o fewn yr ardaloedd hynny lle hwyrach bo angen i ni fod yn llawer iawn mwy blaengar yn y ffordd 'dan ni'n delio efo pobl sy'n symud i fewn i'r cymunedau yna."

'Cyhoeddi cynlluniau yn yr hydref'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae canolfannau trochi yn rhan allweddol o'n system addysg.

"Mae dros 100 o bobl wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar sut i gynllunio hyn ac mae trochi yn un o'r prif ystyriaethau wrth i ni wella y system.

"Rydyn yn edrych ymlaen at gael yr ymatebion a byddwn yn cyhoeddi y camau nesaf yn yr hydref."

Nododd y Comisiynydd hefyd bwysigrwydd cadw pobl ifanc yn eu hardaloedd.

"Mae 'na beryg yn bendant ar ôl iddyn nhw adael ysgol bod nhw hwyrach yn symud i ardaloedd yn ne ddwyrain Cymru - hynny yn naturiol, dyna lle mae'r gwaith.

"Yn y gogledd mae pobl yn mynd i chwilio am waith yng ngogledd orllewin Lloegr felly mae 'na angen i ni fynd i'r afael efo'r gwendid economaidd yma - mae wedi bod yn broblem ers diwedd yr Ail Ryfel Byd."