Carcharu plismon am bedair blynedd am dderbyn cil-dwrn
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y barnwr bod gweithredoedd Mark Hopkins yn "sinigaidd ac yn farus"
Mae detectif gwnstabl o Heddlu De Cymru wedi ei garcharu am bedair blynedd wedi iddo dderbyn cil-dwrn arweiniodd at orfod gollwng achos o ymosodiad.
Fe wnaeth Mark Hopkins, 49 oed o Donpentre, Rhondda, annog dioddefwr yn yr achos i dynnu ei ddatganiad yn ôl.
Y cyn-blismon oedd yn gyfrifol am ymchwilio i ymosodiad ar Richard Diaper, 17, yn Nhonypandy yn 2008.
Cafwyd Hopkins yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd ei wahardd o'i rôl o fewn y llu ar ôl i'r honiadau gwreiddiol godi yn 2014.

Cafodd Hopkins ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd brynhawn Iau
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod yr honiadau yn ei erbyn wedi codi ar ôl i gyn-wraig Hopkins roi gwybod i'r heddlu am ei "frolio".
Dywedodd hi ei fod wedi cyrraedd adref a rhoi swm o arian parod - rhwng £500 a £1,000 - ar fwrdd y gegin.
Yn ôl yr erlynydd, Adam Payter, fe dderbyniodd Mr Diaper alwadau "bygythiol" yn dweud iddo dynnu ei ddatganiad yn ôl, a chafodd gynnig o £3,000 gan rywun oedd yn honni ei fod yn ymwneud â gwerthu cyffuriau ym Manceinion.
Er bod Mr Diaper wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn teimlo dan bwysau, clywodd y llys nad oedd Hopkins wedi cadw cofnod o'r pryderon hyn.
Honnodd yr erlyniad bod Hopkins hefyd wedi ymweld â thŷ'r dioddefwr er mwyn ei annog i dynnu'r datganiad yn ôl cyn cydlofnodi dogfen i ddod a'r ymchwiliad i ben.
'Gweithredoedd sinigaidd a barus'
Dywedodd y Barnwr Eleri Rees: "Roedd gennyt ti record gwbl ddi-fai fel swyddog heddlu, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n fwy syfrdanol eich bod chi wedi ymddwyn fel hyn.
"Roedd dy weithredoedd yn sinigaidd ac yn farus a dwyt ti heb ddangos llawer o edifeirwch."
Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu De Cymru, mae ymddygiad Hopkins yn "enghraifft ofnadwy o lygredd o fewn yr heddlu".
Bydd Hopkins nawr yn wynebu cyhuddiadau gan yr heddlu o gamymddwyn difrifol a bydd cais yn cael i wneud i waredu ei bensiwn.