Morgannwg yn colli'n drwm yn erbyn Surrey yn y T20
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi colli'n drwm i Surrey yn y gystadleuaeth T20 ar yr Oval.
Ar ôl galw'n gywir fe benderfynnodd Morgannwg faesu, ac er i Marchant de Lange gipio wiced Mark Stoneman yn gynnar, roedd hynny'n ymddangos yn gamgymeriad wrth i Aaron Finch a Will Jacks adeiladu partneriaeth bwysig i'r tîm cartref.
Ond yna daeth Grahan Wagg i gipio wiced Jacks cyn i Andrew Salter gael cyfnod o fowlio godidog i gipio pedair wiced am 23 rhediad yn unig wrth i Surrey fynd o 73 am un wiced i 99 am chwech.
Llwyddodd Surrey i gyrraedd cyfanswm o 141 yn eu 20 pelawd nhw gyda Marchant de Lange hefyd yn gorffen gyda phedair wiced.
142 oedd y targed felly i Forgannwg ond cyn diwedd y drydedd pelawd roedden nhw eisoes wedi colli pedair wiced am ond naw rhediad, gyda Tom Curran yn cipio wicedi David Lloyd, Colin Ingram a Billy Root gyda thair pelen yn olynol.
Y batiwr agoriadol, Fakhar Zaman gafodd y nifer fwyaf o rediadau i Forgannwg - 17 - ac fe ychwanegodd Chris Cooke 13 i'r sgôr.
Ond roedd y cyfanswm terfynol hynod siomedig o 44 yn ystod y 13eg pelawd yn golygu bod eu gwrthwynebwyr yn fuddugol o 97 o rediadau.