Morgannwg yn colli i Middlesex o wyth wiced yn y T20
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi cael eu curo gan Middlesex yn y gystadleuaeth T20 yng Ngerddi Soffia.
Fe wnaethon nhw golli'r gêm o wyth wiced wedi i'r ymwelwyr guro'u targed a sgorio 137 o rediadau am ddwy wiced.
Roedd yna ergyd cyn dechrau'r gâm gyda'r newydd bod Mitchell Marsh, sy'n batio a bowlio, ddim yn ymuno â nhw ar gyfer y gystadleuaeth ar ôl iddo fo gael ei enwi yng ngharfan Awstralia ar gyfer Cyfres Y Lludw.
Mae'r batiwr Marnus Labuschagne hefyd yn y garfan ar ôl iddo fo sgorio mwy na mil o rediadau i Forgannwg yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Ar ôl galw'n gywir fe benderfynodd Middlesex i faesu, ond gyda phelen olaf y belawd gyntaf roedden nhw wedi cipio wiced gyntaf y noson.
Fakhar Zaman oedd prif sgoriwr Morgannwg yn y golled yn erbyn Sussex nos Iau ond fe fethodd â sgorio'r un rhediad nos Wener.
Fe wellodd pethau am gyfnod wedi hynny gyda David Lloyd, Billy Root a Chris Cooke yn sgorio 27, 24 a 29 o rediadau yn eu tro.
Ond fe syrthiodd y wiced olaf hanner ffordd drwy'r belawd olaf ac roedd Morgannwg wedi cofnodi cyfanswm o 136.
Wrth ddychwelyd i'r maes i fatio, aeth batwyr agoriadol Middlesex ati o ddifrif i gyrraedd y nod.
Sgoriodd Stevie Eskinazi 51 o rediadau ac fe sgoriodd y capten, Dawid Malan 45 heb fod allan.
Dan Douthwaite a Marchant de Lange wnaeth gipio'r wicedi i Forgannwg ond fe seliodd Middlesex y fuddugoliaeth gyda thros ddwy belawd yn weddill.