Pump o'r Bala yn aelodau o dîm pysgota plu Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pysgotwyr Y Bala
Disgrifiad o’r llun,

Pysgotwyr Y Bala yn ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol yn Yr Alban

Bydd pump aelod o Glwb Pysgota Y Bala ymhlith y rhai a fydd yn cystadlu yn nhîm Cymru yn Yr Alban yr wythnos hon.

Bydd y tîm o 14 yn cystadlu yn erbyn timoedd Lloegr, Iwerddon a'r Alban mewn cystadleuaeth bysgota plu ryngwladol.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar Lyn Menteith ger Stirling ond cyn mynd mae pysgotwyr Y Bala, yn eu plith y ddau efaill Sion a Berwyn, wedi bod yn ymarfer ar Lyn Maes-y-clawdd ger Llandderfel.

Wrth gael ei holi gan Cymru Fyw dywedodd Sion: "Mae pump ohonom ni wedi llwyddo i gyrraedd y tîm 'sgota dros Gymru - mae wedi bod yn dda ein bod ni wedi curo lot o bobol sy'n 'sgota o hyd yn y trials a mae'n dda bod ni'n gallu 'sgota dros ein gwlad."

Dywedodd ei frawd Berwyn: "Mae angen y plu iawn a lot o ymarfer i fod yn bysgotwr da - gobeithio 'nawn ni ennill yn Yr Alban ond dwi'm yn siŵr o hynny.

"Os nad yw'r tywydd yn iawn, mae'n gallu bod yn anodd dal pysgod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Barry Evans, Cadeirydd Cymdeithas Pysgota Y Bala a'r Cylch, yn ffyddiog y bydd y bechgyn yn gwneud yn dda

Dywedodd Barry Evans, Cadeirydd Cymdeithas Pysgota Y Bala a'r Cylch wrth Cymru Fyw ei fod o'n hynod o falch o'r hogiau sydd wedi llwyddo i gyrraedd tîm Cymru.

"Den ni wedi bod yn coachio'r hogie ers blynyddoedd, a ma' nhw'n clymu plu dros y gaeaf hefyd," meddai.

"Mae gennym ni dros 50 o blant yn clwb 'sgota Bala a 'den ni wrth ein boddau yn cael cymaint.

"Dwi'n meddwl gwna nhw'n dda yn Yr Alban... y ffordd ma' rhain yn 'sgota ar y funud mae gennyn nhw siawns dda iawn.

"Efo'r plu ma' nhw wedi clymu dros y gaeaf - dylen nhw wneud yn reit dda."