Disgwyl cwblhau cynllun bysiau Caerdydd erbyn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer gorsaf fysiau newydd yng Nghaerdydd bellach wedi cael eu cymeradwyo gan bob un o ddatblygwyr y safle - ond nid oes disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau tan 2023.
Bydd yr orsaf, sy'n cynnwys 14 safle unigol i fysiau, yn cael ei hadeiladu drws nesaf i gartref newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog.
Mae disgwyl cwblhau'r gwaith adeiladu erbyn diwedd 2022 ond ni fydd ar agor i'r cyhoedd tan Pasg 2023.
Mae Llywodraeth Cymru, Legal & General a Rightacres Property wedi cadarnhau bod y cynlluniau wedi eu cymeradwyo a'u bod yn bwriadu dechrau adeiladu'r orsaf newydd ym mis Tachwedd.
Mae'r datblygiad, sydd hefyd yn cynnwys fflatiau, swyddfeydd ac unedau manwerthu, yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Rightacres a Network Rail.
Y bwriad gwreiddiol oedd agor yr orsaf newydd yn 2017 ond oherwydd oedi am wahanol resymau roedd rhaid gohirio'r cynllun.
Dywedodd y cwmni datblygu, Rightacres y bydd gweithwyr yn dechrau symud carthffos ar y safle o fewn yr wyth wythnos nesaf ac wedi hynny bydda nhw'n rhydd i ddechrau'r gwaith adeiladu.
'Carreg filltir bwysig'
Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan Gyngor Caerdydd 'nôl ym mis Tachwedd.
Dywedodd yr AC lleol, Jenny Rathbone bod hyn yn "garreg filltir bwysig" gan fod angen gorsaf bysiau newydd yn y brifddinas ers tua degawd.
Dywedodd prif weithredwr cwmni Rightacres, Paul McCarthy bod "datgloi'r datblygiad yma wedi bod yn broses cymhleth iawn".
Ychwanegodd Ms Rathbone ei bod hi "wrth ei bodd i weld bod y gwaith ar fin dechrau" gan fod y ddinas angen system drafnidiaeth gyhoeddus fodern "ar frys".
Sut mae'r cynllun yn cael ei ariannu?
£15m gan Lywodraeth Cymru er mwyn prynu'r tir yn ogystal â £15m ychwanegol i helpu gyda'r gwaith datblygu;
Mae partneriaid y cynllun wedi addo cyfrannu £40m;
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyfrannu £15m;
Bydd rhywfaint o arian o'r cynllun £58m i ddatblygu gorsaf drenau Caerdydd Canolog a gorsaf newydd yn Abertawe hefyd ar gael, yn ôl y llywodraeth.
Yn ôl AC Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, mae safle'r orsaf newydd yn hollbwysig ac yn "ran allweddol o'r isadeiledd a'r rhwydwaith drafnidiaeth" sydd wedi bod ar goll o'r ddinas.
"Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi yn cwyno am ddiffyg gorsaf bysiau yng nghanol y ddinas a bod hynny yn arbennig o anodd i bobl sydd â phroblemau hygyrchedd," meddai.
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates y byddai'r orsaf newydd yn "cydweithio'n arbennig o dda gyda gorsaf drenau brysuraf Cymru wrth wella profiadau teithwyr yn y brif ddinas."
Mae safle'r orsaf eisoes wedi cael ei glirio fel bod modd dechrau ar y gwaith adeiladu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2019