Cyn-gapten Morgannwg, Malcolm Nash wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Malcolm NashFfynhonnell y llun, Wales Online
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Malcolm Nash yn gapten ar Forgannwg yn 1980 a 1981

Mae cyn-gapten amryddawn tîm criced Morgannwg, Malcolm Nash, wedi marw yn 74 oed.

Fe gipiodd Nash 993 o wicedi ar y lefel uchaf mewn gyrfa wnaeth ymestyn o 1966 tan 1983, ac ef oedd prif fowliwr Morgannwg pan enillodd y sir Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969.

Mae ei enw hefyd yn y llyfrau hanes oherwydd gorchest Syr Garfield Sobers ar faes Sain Helen, Abertawe yn 1968.

Sobers oedd y batiwr cyntaf i daro'r bêl dros y ffin chwe gwaith mewn pelawd, a Malcolm Nash fowliodd y belawd honno.

Ond yn yr un flwyddyn fe wnaeth Nash gynorthwyo Morgannwg i drechu Awstralia, ac yn 1977 roedd yn ffigwr allweddol wrth i'r sir gyrraedd rownd derfynol un o'r cystadlaethau undydd yn Lords.

Bu'n gapten ar y sir am ddau dymor - 1980 a 1981 - ac fe gafodd yr anrhydedd o fod yn gapten yn ei gêm olaf i Forgannwg cyn gadael i chwarae i Sir Amwythig.